William Rathbone VI
William Rathbone VI | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1819 Lerpwl |
Bu farw | 6 Mawrth 1902 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | William Rathbone |
Plant | Eleanor Rathbone |
Roedd William Rathbone (11 Chwefror 1819 - 6 Mawrth 1902) yn ŵr busnes, yn gymwynaswr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaernarfon ac Arfon.[1] Roedd y ffeminist Eleanor Rathbone (12 Mai 1872 – 2 Ionawr 1946) yn ferch iddo.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd William Rathbone yn Lerpwl yn fab i William Rathbone ac Elizabeth (née Greg) ei wraig. Roedd teulu Rathbone wedi bod yn un ddylynwladol yn natblygiad dinas Lerpwl ers dechrau'r 18g.[2]
Cafodd ei addysgu mewn ysgolion yn Gateacre, Cheam ac Everton, cyn mynd yn brentis i gwmni marsiandwyr rhyngwladol Nicol, Duckworth & Co yn Lerpwl rhwng 1835 ac 1838. Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i astudio am dymor ym Mhrifysgol Heidelberg. O Heidelberg aeth ar daith trwy'r Eidal ym 1839.
Fe ymbriododd dwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Lucretia Wainwright Gair o Lerpwl. Bu iddynt bump o blant ond bu hi farw o gymhlethdodau esgor yn fuan wedi genedigaeth y pumed plentyn. Ei ail wraig oedd Esther Emily Acheson Lyle (bu farw 1918), merch Acheson Lyle o Derry; bu iddynt chwech o blant.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ym 1840 aeth Rathbone i weithio fel clerc ym manc masnachol Baring Brothers. Ym mis Ebrill 1841 aeth ar daith fusnes i'r Unol Daleithiau ar ran y banc, cafodd y daith dylanwad mawr ar ei syniadaeth wleidyddol gan ei wneud yn rhydd masnachwr digyfaddawd. Ar ddiwedd 1841 daeth yn bartner yng nghwmni ei deulu Rathbone Brothers & Co gan barhau yn bartner hyd 1885.
Gwaith dyngarol
[golygu | golygu cod]Mae William Rathbone yn cael ei gofio yn bennaf am ei gyfraniad i ddatblygu gwasanaethau nyrsio ardal yng Nghymru a Lloegr ac am ei gyfraniad i sefydliadau addysgol.
Pan oedd ei wraig gyntaf, Lucretia, ar ei gwely angau ym 1859 cafodd safon y gofal yr oedd hi'n derbyn gan Mary Robinson, ei nyrs, argraff fawr ar feddwl Rathbone. Roedd am sicrhau bod y fath gofal ar gael i bawb oedd ei angen. Mewn cydweithrediad a Florence Nightingale sefydlodd y Liverpool Training School and Home for Nurses ym 1860 i hyfforddi merched ar gyfer wasanaethu fel nyrsiaid ardal; lledaenodd ei ddulliau o hyfforddi a darparu gofal i ddinasoedd mawr eraill megis Manceinion a Birmingham ac erbyn 1874 i Lundain, lle sefydlwyd y Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer darparu Nyrsiaid Hyfforddedig.
Ym 1887 bu Rathbone yn allweddol wrth sefydlu Sefydliad Jiwbilî'r Frenhines Victoria ar gyfer Nyrsiaid a ddaeth wedi hynny yn Sefydliad Nyrsio'r Frenhines, sy'n parhau o hyd. O'r 1860au bu Rathbone yn ymgyrchydd brwd dros wella safon nyrsio mewn tlotai.
Fe fu William Rathbone yn flaengar yn yr ymdrechion i sefydlu Coleg Prifysgol Lerpwl (a agorwyd yn Ionawr 1882), sefydlodd ar y cyd a dau o'i frodyr Cadair y Brenin Alfred mewn llenyddiaeth fodern ac iaith Saesneg; ef oedd llywydd y coleg o 1892. Roedd yn weithgar iawn hefyd yn y mudiad i sefydlu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru (a agorwyd Hydref 1884), a bu'n llywydd o 1891. Cymerodd diddordeb byw mewn sicrhau llwyddiant seneddol i Ddeddf Addysg Ganolradd Cymru 1889.[3]
Rhoddwyd Rhyddid Dinas Lerpwl iddo ym 1891, a derbyniodd gardd LL.D er anrhydedd ym 1895 gan Brifysgol Victoria.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ym mis Tachwedd 1868 cafodd Rathbone ei ethol fel un o'r tri aelod dros Lerpwl, bu'n AS ar gyfer yr etholaeth hyd 1880. Penderfynodd sefyll dros yr etholaeth dde-orllewin Swydd Gaerhirfryn yn etholiad cyffredinol 1880 ond heb lwyddiant. Cafodd ei ddychwelyd yn y mis Tachwedd dilynol mewn is etholiad ar gyfer Sir Gaernarfon gan gynrychioli’r sedd hyd ei ddiddymiad ym 1885. Ym 1885 daeth yn aelod Rhyddfrydol dros etholaeth Arfon gan dal y sedd hyd ei ymddeoliad o'r senedd ym 1895.[4]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Greenbank, Lerpwl, ar 6 Mawrth 1902 a chladdwyd ef ym mynwent Toxteth.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Rathbone, William (1869). . Westminster: J.B. Nichols and Sons.
- Rathbone, William (1882). . London: Chapman and Hall, Limited.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rathbone, William (DNB12). (2013, Hydref 3). Yn Wikisource [1] adalwyd 5 Chwefror 2015
- ↑ Mae son Amdanynt - William Rathbone yn Papur Pawb 15 Ebrill 1893 [2] adalwyd 5 Chwefror 2015
- ↑ William Rathbone yn North Wales Express 14 Mawrth 1902 [3] adalwyd 5 Chwefror 2015
- ↑ Marwolaeth Mr William Rathbone Clorianydd 13 Mawrth 1902 [4] adalwyd 5 Chwefror 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Berry Horsfall Samuel Robert Graves |
Aelod Seneddol Dinas Lerpwl 1868 – 1880 |
Olynydd: Edward Whitley Dudley Ryder John Ramsay |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Watkin Williams |
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon 1880 – 1885 |
Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Arfon 1885 – 1895 |
Olynydd: Griffith Caradoc Rees |