Whakaata Māori
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf deledu |
---|---|
Iaith | Māori |
Dechrau/Sefydlu | 2004 |
Perchennog |
|
Pencadlys | Auckland |
Gwefan | whakaatamaori.co.nz |
Gorsaf deledu yn Aotearoa yw Whakaata Māori sy'n ceisio adfywio'r iaith Māori, "Te Reo Māori", a diwylliant Māori, "Tikanga Māori".[1] Gyda chyllid gan Lywodraeth Seland Newydd, sefydlwyd yr orsaf yn Auckland a dechreuodd ddarlledu ar 28 Mawrth 2004.[2] Mae pencadlys yr orsaf yn 433 East Tāmaki Road, sy'n faestref o ddinas Auckland ar Ynys y Gogledd yn Seland Newydd.
Lansiwyd y sianel yn dilyn Deddf Gwasanaeth Teledu Maori 2003 (Maori Television Service Act) a ddywedodd, “Prif swyddogaeth y Gwasanaeth yw hyrwyddo te reo Maori me nga tikanga Maori [Iaith Maori a diwylliant Maori] trwy ddarparu gwasanaeth teledu Maori cost-effeithiol o ansawdd uchel, yn y Maori a’r Saesneg, fel ei gilydd. yn hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu cynulleidfa eang, ac, wrth wneud hynny, yn cyfoethogi cymdeithas, diwylliant a threftadaeth Seland Newydd".[3]
Cyllideb
[golygu | golygu cod]Mae'r sianel yn gweithredu ar gyllideb gyfyngedig y rhwydwaith, sef NZ$34.7m yn 2016 (oddeutu £16.3m, tua chwarter cyllideb flynyddol S4C yng Nghymru) gyda’r mwyafrif helaeth yn dod gan y llywodraeth.[4]
Enw
[golygu | golygu cod]Mae'r enw "Whakaata Māori" wedi bod yn swyddogol ers 2022, ond mae wedi cael ei ddefnyddio fel enw de facto Māori ar y sianel ers ei sefydlu. Hyd at 2022, Māori Television, yr enw Saesneg, oedd enw swyddogol de jure ar y sianel.
Mae'r gair "Whakaata" yn golygu "i adlewyrchu" ac "i arddangos". Defnyddir "Whakaata" hefyd fel rhan o'r cyfansoddyn "pouata whakaata", sy'n llythrennol yn golygu "blwch arddangos", yn ei dro, "teledu".[5]
Newidiodd yr orsaf ei henw i Maori Television Tahi ("Teledu Maori Un") ar ddiwedd 2007, wrth i orsaf newydd, Maori Television Rua ("Teledu Maori Dau"), ddechrau rhaglennu. Newidiwyd yr enwau ill dau eto wedyn i "Whakaata Māori" ac i "Te Reo".
Te Reo - Ail Sianel
[golygu | golygu cod]Lansiwyd ail sianel, Te Reo ("yr iaith") ar 28 Mawrth 2008 ac mae'n cynnig 100% o'i rhaglenni yn Maori, heb isdeitlau Saesneg. [6] Mewn cyferbyniad â'r brif sianel, mae'n rhydd o hysbysebion ac yn gyfan gwbl yn yr iaith Māori (heb is-deitlau). Mae Te Reo yn cynnwys rhaglenni llwythol arbennig gyda ffocws arbennig ar raglenni newydd ar gyfer aelodau rhugl ei gynulleidfa.
Darlledir rhaglenni Channel 1 rhwng 6:30a.m. a 11:30p.m. ac mae llawer o'i raglenni yn Māori. Darlledir y rhaglen newyddion, Te Kaea, am 5:30 p.m. gydag ailddarllediadau gydag isdeitlau Saesneg. Mae'r rhaglen oriau brig yn Saesneg.
Gwasanaeth Newyddion
[golygu | golygu cod]Yn 2021, lansiodd Māori TV wasanaeth newyddion o'r enw Te Ao Māori News ac ap ffrydio o'r enw MĀORI+ i ymestyn eu cynulleidfa a gwneud eu cynnwys yn fwy hygyrch i wylwyr.[5]
Rhaglenni
[golygu | golygu cod]Ymhlith arlwy'r sianel mae:
- Te Kaea: Newyddion bob nos
- Homai Te Paki Paki: doniau gwych, cerddoriaeth wych
- Ma Tatou: Sioe Iwi-tainment ("iwi" = llwyth)
- Korero Mai: Opera sebon yn iaith Māori
- Tau Ke: Rhaglen i blant
- Haa, Tu Wera: Rhaglenni ieuenctid
- Ora: Sioe goginio
- kapa haka: Dawns traddodiadol
- What’s up with the Tumoanas (fersiwn Maori o gyfres Americanaidd am dylwyth or-gyfoethog y Kardashian)[4]
Llwyddiannau
[golygu | golygu cod]Yn ei fis cyntaf un ar yr awyr, cyrhaeddodd Teledu Māori gynulleidfa o 300,000 o bobl ar unwaith.[7] Dair blynedd yn ddiweddarach, ym mis Ebrill 2007, cyrhaeddodd Teledu Māori 722,000 o wylwyr, cynnydd o 140 y cant. Rhwng mis Mawrth 2004 a diwedd 2007, gwyliodd mwy na 1.7 miliwn o Seland Newydd raglenni'r sianel.[8]
Mae 70 y cant o bobl Māori dros 5 oed wedi gwylio Teledu Māori; 73 y cant o holl Ynyswyr Cefnforol; 43 y cant o Seland Newydd Pākehā (pobl wyn); a 32 y cant o Seland Newydd Asiaidd. Mae mwy na 97 y cant o boblogaeth Seland Newydd yn ymwybodol o Deledu Māori, mae 67 y cant o'r boblogaeth gyfan wedi gweld y rhaglen, ac mae 82 y cant o'r boblogaeth gyfan yn cefnogi Teledu Māori fel rhan barhaol o'r dirwedd deledu leol.
Cynnal Traddodiadau
[golygu | golygu cod]Nodweddwyd lansiad darllediad y sianel newydd gan llafar-ganu cyfarchion yn y dull traddodiadol. Gwisgau'r mynychwyr, ddaeth yn actorion a chynulleidfa i'r darllediad byw ar doriad gwawr yn rhan o'r digwyddiad. Daliwyd fflangellau tân yn y lawnt y tu allan i'r stiwdio oedd hefyd yn bencadlys ac yna gorymdeithiodd y mynychwyr i'r adeilad. Gwisgai rhai pobl wisg traddodiadol neu gwn draddodiadol fel rhan o'r achlysur hanesyddol.[9]
Bob bore yn Teledu Maori, bydd cloch yn cael ei chanu a'r staff yn ymgynnull ar gyfer y karakia dyddiol. Wrth i weithwyr blygu eu pennau, darllenir swynganeuon yn yr iaith Maori am arweiniad ysbrydol ac amddiffyniad i ddechrau'r diwrnod. Daw’r seremoni i ben gyda chân cyn i bawb ddychwelyd i’w gwaith a’r gohebwyr baratoi ar gyfer cyfarfod golygyddol y bore.[4]
Cysylltiadau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Yn 2024 arwyddodd y Whakaata Māori a sianel deledu Gwyddeleg, TG4, bartneriaeth strategol i gynnal gwerthoedddDiwylliannol ac adnoddau cyfnewid. Llofnodwyd y ddogfen yn y 45ain Ŵyl Cyfryngau Celtaidd a gynhaliwyd y flwyddyn honno yng Nghaerdydd. Nodwyd ei bod yn garreg filltir bwysig wrth wella'r cysylltiad rhwng y cymunedau Māori a Gwyddeleg.[10]
Hyd at 2024 nid oedd perthynas swyddogol rhwng y sianel Māori ac S4C.
Dolenni allannol
[golygu | golygu cod]- Māori Television
- @MaoriTelevision tudalen Whakaata Māori ar Facebook
- @WhakaataMaori cyfrif Whakaata Māori ar Instagram
- Māori Television Launch recordiad o'r 30 munud gyntaf ar yr awyr yn 2004
- Maori TV Collection Archif o raglenni Maori
- Spreading the Word erthygl ar y sianel ar wefan Monocle magazine
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Impact of Mäori Television on the Mäori Language (Adroddiad). Te Puni Kōkiri. July 2011. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2017-05-03. https://web.archive.org/web/20170503213241/https://www.tpk.govt.nz/documents/download/271/Impact-Survey-Maori-Television.pdf. Adalwyd 2017-10-17. "The Impact Survey results show a consistent relationship between greater viewing of Mäori Television and increasing language usage, greater language learning, and proficiency increases and maintenance. Collectively these outcomes point towards Māori Television having a marked positive contributing impact on Mäori language revitalisation."
- ↑ Bagge, Holly (2016-03-11). "Doing a lot with a little: Māori TV gears up for its new season of programming". StopPress. Cyrchwyd 2020-12-03. Unknown parameter
|archive=
ignored (help) - ↑ "Maori Television Service Act 2003". Gwefan newzealand.fandom.com. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Bergman, Justin. "Spreading the Word". Monocle Magazine. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
- ↑ 5.0 5.1 "The Dawn Of A New Era. Māori Television Unveil New Name – Whakaata Māori". Scoop.co.nz. 23 May 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 May 2022. Cyrchwyd 26 June 2009.
- ↑ Māori Television (9 Mawrth 2008). "Māori Television launches second channel". Māori Television. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2008.
- ↑ "Non-Maori fans of Maori TV". New Zealand Herald. 24 Mehefin 2004. Cyrchwyd 20 Chwefror 2022.
- ↑ "Maori Television Marks Fifth On-Air Anniversary". Throng. 26 Mawrth 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Chwefror 2012. Cyrchwyd 26 Mehefin 2009.
- ↑ "Māori Television Launch". NZ Onscreen. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
- ↑ "TG4 (Ireland) and Whakaata Māori (New Zealand) Forge Strategic Partnership to Uphold Cultural Values and Exchange Resources". TG4. 5 Mehefin 2024.