Richard Jones (Cymro Gwyllt)
Gwedd
Richard Jones | |
---|---|
Ganwyd | c. 1772 |
Bedyddiwyd | 11 Ionawr 1772 |
Bu farw | 26 Chwefror 1833 |
Man preswyl | Y Wern |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor |
Emynydd Cymraeg ac awdur ar bynciau diwinyddol oedd Richard Jones (Ionawr 1772 – 26 Chwefror 1833), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Cymro Gwyllt.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Richard Jones ym mhlwyf Llanystumdwy, Eifionydd, yn 1772, ond symudodd i fyw yn Y Wern, yn Llanfrothen, Meirionnydd. Fe'i orddeinwyd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1816 a gwasanaethodd yn Llanfrothen.
Perthynai i gylch llenyddol Dafydd Ddu Eryri. Ysgrifennodd yn gyson i'r wasg enwadol a chyfranodd i ddaleuon diwinyddol yr oes. Ond fe'i cofir heddiw fel emynydd yn bennaf.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Drych y Dadleuwr (1829). Diwinyddiaeth.
- Hymnau a Chaniadau Ysgrythurol a Duwiol (1836). Golygwyd a chyhoeddwyd gan John Elias ar ôl marwolaeth Richard Jones.