Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf
Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf | |
---|---|
Lle | Minehead, Gwlad yr Haf |
Terfyn | Minehead a Bishops Lydeard |
Gweithrediadau masnachol | |
Adeiladydd | Rheilffordd Minehead |
Lled gwreiddiol y cledrau | 7 tr 0 1⁄4 modf (2,140 mm) hyd at 1882 |
Pethau sy'n parhau | |
Gweithredir gan | Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf cyf |
Gorsafoedd | 11 |
Hyd | 22.75 milltir (36.61 km) |
Lled y cledrau a gadwyd | 4 tr 8 1⁄2 modf (1,435 mm) |
1862 | Agorwyd rhwng Taunton a Watchet |
1874 | Agorwyd i Minehead |
1882 | Newid i 4 tr 8 1⁄2 modf (1,435 mm) lled safonol |
1971 | Wedi cau |
Hanes ei chadwraeth | |
1973 | Prynwyd rhyddfraint gan Gyngor Gwlad yr Haf |
1975 | Rhoddwyd Gorchymyn rheilffordd ysgafn |
1976 | Ailagorwyd rhwng Minehead a Williton |
1978 | Ailagorwyd i Stogumber |
1979 | Ailagorwyd i Bishops Lydeard |
1987 | Agorwyd gorsaf reilffordd Doniford |
2009 | Agorwyd gorsaf reilffordd Norton Fitzwarren |
Pencadlys | Y Cwmni: Minehead Y Gymdeithas Bishops Lydiard |
Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Mae Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf yn rheilffordd dreftadaeth, 22.75-milltir (36.6 km) o hyd yng Ngwlad yr Haf, y rheilffordd dreftadaeth hiraf yn Lloegr. Perchennog y lein a'r gorsafoedd yw Cyngor Gwlad yr Haf, sydd wedi eu llogi nhw i Gwmni Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf cyf, sy'n gweithredu'r lein efo cefnogaeth Cymdeithas Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf.
Hanes
[golygu | golygu cod]Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd cyfarfod yng Ngwesty Egremont, Williton ar 9 Gorffennaf 1856 i drafod rheilffordd rhwng Williton a Rheilffordd Bryste a Chaerwysg. Ystyriwyd twnnel trwy'r Bryniau Quantock, efallai i Bridgwater; ond awgrymodd Isambard Kingdom Brunel y buasai'r twnnel yn ddrud, ac awgrymodd reilffordd yn dilyn Nant Donibrook ac yn cysylltu â Rheilffordd Bryste a Chaerwysg yn Taunton. Cytunwyd ar derminws gogleddol yn Watchet. Trefnwyd arolwg gan Brunel, a phasiwyd deddf ar 17 Awst 1857, yn creu Cwmni Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf i adeiladu rheilffordd 14 milltir hyd at Watchet. Cyheoddwyd prospectws, yn disgwyl cludiant glo i Taunton a theithwyr i Dde Cymru. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 10 Ebrill 1859.[1] Lled y traciau oedd 7 troedfedd, yr un maint â Rheilffordd y Great Western ar y pryd. Agorwyd y rheilffordd o Norton Fitzwarren, ei cyffordd efo Rheilffordd y Great Western, a Watchet ym 1862. Trefnwyd y gwasanaethau trên gan y Great Western o'r cychwyn.[2]
Rheilffordd Minehead
[golygu | golygu cod]Ym 1874 Pasiwyd deddf i adeiladu rheilffordd rhwng Watchet a Minehead.[3] Agorwyd rheilffordd rhwng Watchet a Minehead ar 16 Gorffennaf 1874.[2][4]
Yn ystod ac ar ôl cyfnod Rheilffordd y Great Western
[golygu | golygu cod]Daeth y 2 reilffyrdd yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1897. Gwladwyd y rheilffyrdd ym 1948. Caewyd y lein gan Reilffyrdd Prydeinig ym 1971.[2]
Atgyfodi
[golygu | golygu cod]Dechreuodd gwasanaethau'r reilffordd dreftadaeth ym 1976 rhwng Minehead a Blue Anchor, a hyd at Williton yr un flyddyn[2]. Erbyn hyn mae trenau'n rhwng Minehead a Bishops Lydeard rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd, yn cario mwy na 200,000 o deithwyr yn flynyddol. Weithiau, ers 1 Mawrth 2009, mae trenau wedi mynd mynd o Bishop's Lydeard i Norton Fitzwarren.[5]
Mae Canolfan ymwelwyr yn Bishops Lydeard, amgueddfa'r Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset yn Williton ac amgueddfa Rheilffordd y Great Western yn Blue Anchor[6].
Locomotifau
[golygu | golygu cod]Locomotifau stêm
[golygu | golygu cod]GWR Dosbarth Manor 7828 'Norton Manor'
Cynllun Collett. Adeiladwyd yn Swindon ym 1950, efo'r enw 'Odney Manor'. Gwerthwyd i Iard sgrap Dai Woodham yn Y Barri. Aeth i Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn yn 90au, ac wedyn prynwyd y locomotif gan Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf. Ailenwyd 'Norton Manor' ar ôl pencadlyd 40 Comando yn Norton Fitzwarren.
GWR Dosbarth Manor 7820 'Dinmore Manor'
Adeiladwyd yn Swindon ym 1950. Prynwyd o Reilffordd Gwili. Atgyweirir yn Tyseley.
GWR Dosbarth Manor 7821 'Ditcheat Manor'
Mae angen atgyweirio; arddangosir yn Amgueddfa STEAM, Swindon.
Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset dosbarth 7F 2-8-0 rhif 88
Adeiladwyd gan Robert Stephenson a'i Feibion ym 1925, a chafodd rif 53808 yng Nghyfnod Reilffyrdd Prydeinig. Aeth i Iard sgrap Dai Woodham ym 1963. Prynwyd gan Ymddiriodolaeth Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset yn y 60au.
2-6-0 9351
Cynlluniwyd y dosbarth yn 30au, ond heb eu adeiladu. Penderfynwyd gan y rheilffordd i greu un o locomotif arall, 'Prairie Mawr' rhif 5193.
Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 3850
Addasiad Charles Collett o gynllun George Churchward, adeiladwyd yn Swindon ym 1942.Treuliodd 20 mlynedd yn Iard sgrap Dai Woodham cyn cyrraedd y rheilffordd yn y 80au.
Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 2874
Mewn storfa, yn disgwyl am atgyweiriad.
Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 2850
Yn cael atgyweiriad yn Toddington.
Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 3845
Mewn storfa, yn disgwyl am atgyweiriad.
Dosbarth 5101 GWR 'Prairie mawr' 2-6-2T 4160
Adeiladwyd ym 1948 yn Swindon. Daeth i'r rheilffordd yn y 90au.
0-4-0ST 1788 'Kilmersdon'
Adeiladwyd gan gwmni Peckett ym Mryste ym 1929. Gweithiodd yng Nglofa Kilmersdon yng Ngwlad yr Haf. Cedwir yn Washford.
Dosbarth 'Hall' 4-6-0 6960 'Raveningham Hall'
Gweithredol.
Dosbarth 4500 GWR 'Prairie bach' 2-6-2T 4561
Cynllun Churchward. Yn disgwyl am atgyweiriad yn Williton.[7]
Locomotifau diesel
[golygu | golygu cod]Dosbarth 52 D1010 'Western Campaigner'
[golygu | golygu cod]Un o 74 o'r dosbarth, dyfneddiwyd ar drenau cyflym i deithwyr ac ar drenau'n cario meini o'r Bryniau Mendip.
Dosbarth 35 'Hymek' D7017 a 7018
[golygu | golygu cod]Dau o'r 101 adeiladwyd gan Gwmni Beyer Peacock ym Manceinion. Atgyweirir yn Williton.
Dosbarth 14 'Teddy Bear' D8526
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd i gymryd lle'r locomotifau llai'r rheilffordd. Aeth rhai ohonynt i cwmniau breifat, yn achos D8526 i Sment Blue Circle yn Westbury.
Dosbarth 33 'Crompton' D6566 a D6575
[golygu | golygu cod]Dau o 'r 98 adeiladwyd gan Gwmni Cerbyn a Wagen Birmingham.
Dosbarth 47 D1661 'North Star'
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd 512 o'r dosbarth yng Ngwaith Cryw a ffatri Brush yn Loughborough rhwng 1962 a 1968. Yn ddiweddaraf, daeth o'n rhif 47840.
Dosbarth 03 D2133
[golygu | golygu cod]Locomotifau bychain oeddent, ar gyfer cledrau ysgafn neu grwm. Gweithiodd D2133 yn Taunton ac wedyn prynwyd gan British Cellophane ar gyfer eu rheilffyrdd preifat yn y dref. Rhoddwyd i reilffordd Gorllewin Gwlad yr haf pan caewyd leiniau'r cwmni. Defnyddir ym Minehead.
Dosbarth 09 0-6-0 rhif 09 019
[golygu | golygu cod]Roedd 26 o'r dosbarth.
0-4-0 Loconotif Sentinel DH16
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd 18 ohonynt gan Gwmni Sentinel ar gyfer Cwmni Camlas Llongau Manceinion, lle gweithiodd DH16 hyd at 1971. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn Awst 2001.
0-6-0 rhifau 1 a 2
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd gan Gwmni Andrew Barclay yn Kilmarnock ar gyfer ffatri ordnans yn Bridgwater ym 1962. Cyrhaeddent y rheilffordd ym 1994.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan gyharach y rheilffordd
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwefan british-heritage-railways". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-21. Cyrchwyd 2016-10-31.
- ↑ "Gwefan minehead-online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-13. Cyrchwyd 2016-10-31.
- ↑ "Gwefan Gorsaf Dunster". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-07. Cyrchwyd 2016-10-31.
- ↑ "Gwefan Cymdeithas reilffordd Cernyw". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-21. Cyrchwyd 2016-10-31.
- ↑ Gwefan everythingexmoor[dolen farw]
- ↑ Gwefan y rheilffordd[dolen farw]
- ↑ Tudalen locomotifau diesel ar wefan y rheilffordd[dolen farw]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan y rheilffordd Archifwyd 2016-11-02 yn y Peiriant Wayback