Phoenix, Arizona
Math | dinas yn yr Unol Daleithiau, tref ddinesig, dinas fawr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ffenics |
Poblogaeth | 1,608,139 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Kate Gallego |
Cylchfa amser | UTC−07:00, Cylchfa Amser y Mynyddoedd |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Maricopa County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 1,341.477468 km² |
Uwch y môr | 1,086 troedfedd, 331 metr |
Gerllaw | Afon Salt |
Cyfesurynnau | 33.4483°N 112.0739°W |
Cod post | 85001–85087 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Phoenix |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Phoenix |
Pennaeth y Llywodraeth | Kate Gallego |
Dinas yng ngorllewin yr Unol Daleithiau yw Phoenix. Hi yw prifddinas a dinas fwyaf talaith Arizona. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 1,552,259; Phoenix yw'r unig brifddinas talaith yn yr Unol Daleithiau sydd a phoblogaeth dros filiwn, a saif yn bumed o ran dinasoedd yr Unol Daleithiau yn ôl poblogaeth. Roedd poblogaeth yn ardal ddinesig yn 2007 yn 4,179,427.
Trigolion gwreiddiol yr ardal oedd pobl frodorol yr Hohokam, oedd yn defnyddio camlesi i ddyfrhau'r tiroedd ar gyfer tyfu cnydau. Gostyngodd y boblogaeth yn raddol oherwydd prinder dŵr, a bychan oedd y boblogaeth erbyn dechrau'r 19g. Sefydlwyd y ddinas tua 1867 gan Jack Swilling, mewn man lle roedd olion camlesi'r Hohokam. Yn ddiweddarach, enwyd y ddinas yn "Phoenix" ar ôl y Ffenics chwedlonol, oherwydd fod y ddinas wedi tyfu ar olion sefydliad cynharach.
Gefeilldrefi Phoenix
[golygu | golygu cod]Gwlad | Dinas |
---|---|
Taiwan | Taipei |
Canada | Calgary |
Yr Eidal | Catania, Sisili |
Tsieina | Chengdu |
Iwerddon | Inis |
Ffrainc | Grenoble |
Mecsico | Hermosillo |
Japan | Himeji |
Gweriniaeth Tsiec | Prag |
Israel | Ramat Gan |
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) www.phoenix.gov