[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Peter Pan (ffilm 1953)

Oddi ar Wicipedia
Peter Pan
Cyfarwyddwr Clyde Geronimi
Wilfred Jackson
Hamilton Luske
Cynhyrchydd Walt Disney
Ysgrifennwr J.M. Barrie (llyfr)
Milt Banta
William Cottrell
Winston Hibler
Bill Peet
Erdman Penner
Joe Rinaldi
Ted Sears
Ralph Wright
Serennu Bobby Driscoll
Kathryn Beaumont
Hans Conried
Paul Collins
Tommy Luske
Bill Thompson
Candy Candido
Heather Angel
Roland Dupree
Don Barclay
Cerddoriaeth Oliver Wallace
Dylunio
Cwmni cynhyrchu RKO Radio Pictures, Inc.
Dyddiad rhyddhau 5 Chwefror, 1953
Amser rhedeg 76 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Olynydd Return to Never Land
(Saesneg) Proffil IMDb

Ffilm Disney yw Peter Pan (1953). Mae'r ffilm yn seiledig ar y llyfr gan J. M. Barrie[1]. Cafodd y ffilm ddilynol, Return to Never Land, ei rhyddhau yn 2002.

Plot

Yn Llundain, tua 1900, mae ymddygiad eu bechgyn, John a Michael, yn amharu ar baratoadau George a Mary Darling i fynychu parti. Mae'r hogiau yn ail- adrodd storïau am Peter Pan a'r môr-ladron, clywsant gan eu chwaer hŷn, Wendy. Mae George wedi cael llond bol o'r straeon gan ei fod yn credu eu bod wedi gwneud ei blant yn fwy hygoelus. Mae'n datgan bod Wendy wedi mynd yn rhy hen i barhau i aros yn y feithrinfa gyda'r bechgyn. Y noson honno, mae Peter Pan yn ymweld â'r feithrinfa, ac yn dysgu'r plant sut i hedfan gyda chymorth ei ffrind, y tylwythyn teg Tinker Bell, ac yn mynd a nhw gydag ef i ynys Never Land.[2]

Mae llong môr-ladron wedi'i angori oddi ar Never Land, o dan feistrolaeth y Capten Hook gyda'i gynghreiriad, Mr Smee. Mae Hook yn cynllwynio i gael dial ar Peter Pan am dorri ei law i ffwrdd. Ond maent hefyd yn ysgwyd mewn ofn oherwydd bresenoldeb crocodeil wnaeth bwyta llaw Hook, wedi ei dorri. Cafodd y crocodeil blas ar y llaw ac mae'n awyddus i fwyta rhagor o gig o'r un ffynhonnell. Mae ymosodiad Peter a phlant y teulu Darling yn ymyrryd ar aflonyddwch y criw. Mae Tinker Bell, sy'n eiddigeddus o sylw mae Peter Pan yn roi i Wendy, yn perswadio criw o fechgyn sy'n byw yn Never Land, y Bechgyn Coll, bod Peter wedi eu gorchymyn i saethu "yr aderyn Wendy" o'r awyr. Mae Peter yn cael gwybod am frad Tinker Bell ac yn ei halltudio o'r cwmni. Mae John a Michael yn ymadael gyda'r Bechgyn Coll i chwilio am Indiaid cochion yr ynys. Mae'r Indiaid yn eu dal, gan gredu mai nhw yw'r rhai sy'n gyfrifol am herwgipio Tiger Lily, merch pennaeth y llwyth.[2]

Yn y cyfamser, mae Peter yn mynd a Wendy i weld y morforynion. Mae'r morforynion yn ymhyfrydu mewn profocio Wendy, ond maent yn ffoi mewn ofn wrth Hook dod i'r golwg. Mae Peter a Wendy yn gweld bod Hook a Smee wedi dal Tiger Lily fel y gallent ei pherswadio hi i ddatgelu cuddfan Peter. Mae Peter a Wendy yn ei rhyddhau, ac mae Peter yn cael ei anrhydeddu gan y llwyth. Yna, mae Hook yn cynllwynio i fanteisio ar eiddigedd Tinker Bell o Wendy, ac yn ei thwyllo i ddatgelu lleoliad cuddfan Peter. Mae Wendy a'i brodyr yn dechrau hiraethu am eu cartref ac yn bwriadu dychwelyd adref. Maent yn gwahodd Peter a'r Bechgyn Coll i ddychwelyd i Lundain gyda nhw a chael eu mabwysiadu gan y rhieni Darling. Mae'r Bechgyn Coll yn cytuno, ond mae Peter yn gwrthwynebu gan nad yw am fynd i fyd lle bydd raid iddo dyfu fyny. Mae'r môr-ladron yn aros ger llaw ac yn dal y Bechgyn Coll a'r plant Darling wrth iddyn nhw ymadael, gan adael bom amseri ladd Peter. Mae Tinker Bell yn dysgu am y cynllun mewn pryd i symud y bom cyn i Peter ei gyrraedd. Wrth iddi symud y bom mae'n ffrwydro.[2]

Mae Peter yn achub Tinker Bell o'r rwbel a gyda'i gilydd maent yn wynebu'r môr-ladron, gan ryddhau'r plant cyn iddynt gael eu gorfodi i gerdded y planc. Mae Peter yn ymladd â Hook mewn un frwydr wrth i'r plant ymladd y criw, ac mae'n llwyddo i fychanu'r capten. Mae Hook a'i griw yn ffoi, gyda'r crocodeil yn mynd ar eu hol. Mae Peter yn cymryd meddiant o'r llong, a gyda chymorth llwch hud Tinker Bell, yn eu hedfan i Lundain gyda'r plant ar ei fwrdd. Mae'r Bechgyn Coll yn penderfynu dychwelyd i Never Land yn hytrach na chael eu mabwysiadu yn Llundain. Mae George a Mary Darling yn dychwelyd adref o'r parti gan ddod o hyd i Wendy yn cysgu ar sil ffenestr y feithrinfa. Mae Wendy yn deffro yn llawn cyffro gan ddweud am eu hanturiaethau. Mae'r rhieni yn edrych allan o'r ffenestr a gweld yr hyn sy'n ymddangos fel llong môr-ladron yn hwylio yn y cymylau. Mae George yn cael ei atgoffa o weld y llong yn ystod ei blentyndod ei hun.[2]

Cymeriadau

  • Peter Pan (Bobby Driscoll)
  • Wendy Darling (Kathryn Beaumont)
  • Capten Hook/Mr. Darling (Hans Conried)
  • Mr. Smee (Bill Thompson)
  • John Darling (Paul Colins)
  • Michael Darling (Tom Luske)
  • Mrs. Darling (Heather Angel)

Arlunyddwyr

  • Milt Kahl (Peter Pan)
  • Ward Kimball (Wendy, John, Michael a'r bechgyn coll)
  • Marc Davis (Tinker Bell)
  • Frank Thomas (Captain Hook/Capten Bach)
  • Ollie Johnston (Mr. Smee)
  • Wolfgang Reitherman (Crocodeil)
  • John Lounsbery (Mr. Darling)

Caneuon

  • The Second Star to the Right - Geiriau gan Sammy Cahn. Cerddoriaeth gan Sammy Fain. Lleisiau cefndirol The Jud Conlon Chorus & The Mellomen. [3]
  • You Can Fly! - Geiriau gan Sammy Cahn. Cerddoriaeth gan Sammy Fain. Llefaru Bobby Driscoll, Kathryn Beaumont, Paul Collins, & Tommy Luske. Lleisiau cefndirol The Jud Conlon Chorus, & The Mellomen.
  • A Pirate's Life - Geiriau gan Ed Penner. Cerddoriaeth gan Oliver Wallace. Lleisiau cefndirol The Mellomen.
  • Following the Leader - Geiriau gan Winston Hibler & Ted Sears. Lleisiau Bobby Driscoll, Paul Collins, Tommy Luske, & chast y Bechgyn coll
  • What Made the Red Man Red? - Geiriau gan Sammy Cahn. Cerddoriaeth gan Sammy Fain. Prif lais C&y C&ido. Lleisiau cefndirol The Mellomen.
  • Your Mother & Mine - Geiriau gan Sammy Cahn. Cerddoriaeth gan Sammy Fain. Prif lais Kathryn Beaumont.
  • The Elegant Captain Hook - Geiriau gan Sammy Cahn. Cerddoriaeth gan Sammy Fain. Prif lais Hans Conried & Bill Thompson. Lleisiau cefndirol The Mellomen.
  • You Can Fly! (reprise) - Geiriau gan Sammy Cahn. Cerddoriaeth gan Sammy Fain. Lleisiau cefndirol The Jud Conlon Chorus & The Mellomen.
  • Never Smile at a Crocodile - Geiriau gan Jack Lawrence. Cerddoriaeth gan Frank Churchill. (Cafodd y geiriau eu torri o drac sain y ffilm, ond cawsant eu cynnwys ar CD 1997 Walt Disney Records)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. American Film Institute -Peter Pan adalwyd 12 Ionawr 2019
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 IMDb - Peter Pan Plot Summary adalwyd 12 Ionawr 2019
  3. IMDb Peter Pan Soundtrack adalwyd 12 Ionawr 2019