Helios
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Sol)
Enghraifft o'r canlynol | duw Groeg, duwdod heulol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ym mytholeg Roeg, duw'r haul yw Helios (Groeg). Ym mytholeg y Rhufeiniaid fe'i gelwir yn Sol (Lladin).
Codwyd Colosws Rhodos tua 280 CC i amddiffyn y fynedfa i borthladd Rhodos. Cafodd ei wneud allan o efydd ar lun dyn cydnerth, noeth neu led-noeth, a oedd yn cynrychioli Helios, yr heuldduw. Fe'i ystyrid yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd. Safai ar ddau ben y ddau forglawdd a amddiffynai'r porthladd a dywedir bod llongau dan hwyliau llawn yn medru pasio o dano.