Mabel Brookes
Mabel Brookes | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mehefin 1890 South Yarra |
Bu farw | 30 Ebrill 1975 South Yarra |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Galwedigaeth | llenor, cymdeithaswr, charity worker |
Mam | Alice Mabel Emmerton |
Priod | Norman Brookes |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, CBE, Chevalier de la Légion d'Honneur |
Awdures o Awstralia oedd Mabel Brookes (15 Mehefin 1890 - 30 Ebrill 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur a chymdeithaswr.
Bywyd a gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Mabel Brookes yn South Yarra, Victoria, Awstralia yn unig blentyn i gyfreithiwr o Melbourne a H. Emmerton a'i wraig. Cafodd ei haddysgu gan ei thad a chyfres o athrawesau cartref a disgrifiodd ei phlentyndod fel un unig. A hithau'n 18 oed, fe ddyweddiodd gyda Norman Brookes, chwaraewr tenis a'r Awstraliad cyntaf i ennill Wimbeldon. Priododd y ddau yn Eglwys Anglicanaidd St Paul yn Melbourne ar 19 Ebrill 1911 a thair blynedd yn ddiweddarach rhoddodd Mabel enedigaeth i'w merch gyntaf (ganwyd dwy ferch arall iddynt yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd). Aeth Mabel ar sawl taith dramor gyda'i gŵr i gystaedlaethau tenis yn Ewrop ac UDA. Yna yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan oedd Norman Brookes yn gweithio yng Nghairo fel comisiynydd cangen Awstralia o'r Groes Goch Brydeinig. Ysbrydolwyd rhai o weithiau llenyddol Mabel gan ei chyfnod yn yr Aifft - Broken Idols (Melville and Mullin, 1917) ac Old Desires (Australian Authors Agency, 1922). Pan gafodd ei gŵr ei anfon i Mesopotamia yn 1917 dylchwelodd Mabel i Melbourne. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd caniataodd teulu'r Brookes i'w cartref yn Kurneh gael ei ddefnyddio gan y Groes Goch fel catref ymadfer i filwyr oedd wedi dychwelyd o'r Rhyfel. Gwasanaethodd fel llywydd y Queen Victoria Hospital rhwng 1923 ac 1970 ac enwyd adain newydd o'r ysbyty ar ei hôl. Cyhoeddodd hunangofiant yn 1974 lle mae'n dwyn i gof amrywiol ddigwyddiadau yn ystod ei bywyd, gan gynnwys cwrdd â nifer o bobl nodedig a hanesyddol. Bu farw Mabel Brookes yn South Yarra ar 30 Ebrill 1975 yn 84 oed.[1][2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Brookes, Mabel Balcombe (1917). Broken idols. Melbourne: Melville & Mullen.
- ↑ "'The woman who is Melbourne' dies". The Sydney Morning Herald – Google News Archive Search. 1 Mai 1975. t. 10. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2016.