[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Jac y do

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Jac-y-do)
Jac y do
Corvus monedula

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Coloeus[*]
Rhywogaeth: Coloeus monedula
Enw deuenwol
Coloeus monedula
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Jac y do (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: jac dos) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Coloeus monedula; yr enw Saesneg arno yw Jackdaw. Mae'n perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. monedula, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Gellir adnabod y Jac-y-do yn weddol hawdd. Mae'n un o'r lleiaf o deulu'r brain, 34–39 cm o hyd. Du yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae'r bochau a'r gwddf yn llwyd golau. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o deulu'r brain, mae'r llygaid yn wyn. Fel rheol maent yn casglu at ei gilydd yn heidiau, weithiau gannoedd gyda'i gilydd.

Maent yn hoffi cymysgedd o goed a thir agored, ac fel rheol maent yn bwydo ar lawr gan gymeryd unrhyw bryfed neu anifeiliaid bychain eraill, a hefyd hadau a grawn. Maent yn aml yn nythu ar glogwyni, weithiau nifer fawr gyda'i gilydd, ond adeiledir nythod mewn coed neu hen adeiladau hefyd, ac ambell dro mewn corn simddai. Dodwir 4-5 o wyau.

Mae'r Jac-y-do yn aderyn cyffredin ac adnabyddus yng Nghymru.

Mae'r jac y do yn perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Q28872863 Cyanocorax morio
Brân goesgoch Alpaidd Pyrrhocorax graculus
Chwibanwr mangrof Pachycephala cinerea
Jac y do Dawria Corvus dauuricus
Malwr cnau Nucifraga caryocatactes
Pioden las Fformosa Urocissa caerulea
Sgrech lwyd Perisoreus canadensis
Sgrech-bioden gynffon-raced Crypsirina temia
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. [1]Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
Safonwyd yr enw Jac y do gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.