[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Herbert Henry Asquith

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o H. H. Asquith)
Herbert Henry Asquith
GanwydHerbert Henry Asquith Edit this on Wikidata
12 Medi 1852 Edit this on Wikidata
Morley Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1928 Edit this on Wikidata
o clefyd serebro-fasgwlaidd Edit this on Wikidata
The Wharf Edit this on Wikidata
Man preswyl20 Cavendish Square Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Cartref, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Prif Arglwydd y Trysorlys, rheithor, Arweinydd yr Wrthblaid Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadJoseph Dixon Asquith Edit this on Wikidata
MamEmily Willans Edit this on Wikidata
PriodMargot Asquith, Helen Kelsall Melland Edit this on Wikidata
PlantElizabeth Bibesco, Raymond Asquith, Herbert Asquith, Arthur Asquith, Violet Bonham Carter, Cyril Asquith, Anthony Asquith Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Herbert Henry Asquith, Iarll 1af Rhydychen ac Asquith, Ardalydd Asquith o Morley, (12 Medi 185215 Chwefror 1928), yn Brif weinidog Rhyddfrydol y Deyrnas Unedig rhwng 1908 a 1916. Roedd yn gyfrifol am Ddeddf y Senedd 1911, gwnaeth cyfyngu pŵer Tŷ'r Arglwyddi, a bu'n arwain y Deyrnas Unedig yn DU yn ystod dwy flynedd gyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf.[1]

Bywyd Cynnar

[golygu | golygu cod]
Asquith (chwith) gyda'i chwaer Emily a'i brawd hyn William, c. 1857

Ganwyd Asquith yn Morley Swydd Efrog yn ail fab Joseph Dixon Asquith, perchennog melin wlân fychan ac Emily née Willans ei wraig. Roedd y teulu yn un oedd a thraddodiad hir o gefnogi enwad y Cynulleidfawyr (yr Annibynwyr).[2] Fe'i cofrestrwyd ei enw ar ôl ei eni fel Herbert Asquith, ac yn cael ei alw'n Bertie yn y teulu; ymddengys bod yr enw Henry yn un a roddwyd iddo gan ei ail wraig. Yn gyhoeddus cyfeiriwyd ato fel arfer fel H H Asquith.[3] Cafodd ei addysgu gartref gan ei rieni hyd i'w dad marw pan oedd Herbert yn wyth mlwydd oed. Bu ei daid mamol wedyn yn gyfrifol am y teulu ac fe drefnodd ef le i Herbert a'i frawd yn Ysgol y Morafiaid ger Leeds. Wedi i'w daid marw ym 1864 aeth y plant i fyw at eu hewyrth John, brawd eu mam, yn Llundain. Symudodd John yn ôl i swydd Efrog i redeg busnes ei ddiweddar dad gan adael y plant yng ngofal gwarcheidwaid yn Llundain. Yn Llundain mynychodd y plant Ysgol Dinas Llundain fel efrydwyr dydd lle profodd Herbert i fod yn ysgolor galluog.[4]

Ym 1869 enillodd Asquith ysgoloriaeth i astudio'r Clasuron yng Ngholeg Balliol Rhydychen gan raddio ym 1874 gyda gradd dosbarth cyntaf dwbl yn y Clasuron a'r Mawrion. Wedi graddio fe wnaed yn gymrawd o'i goleg.

Priodasau

[golygu | golygu cod]

Ym 1875 priododd Helen Melland, merch meddyg o Fanceinion, bu iddynt 4 mab ac un ferch. Bu farw Helen ym 1891 o teiffoid gan gadael Asquith yn ŵr weddw efo llawn tŷ o blant. Ym mhen llai na thair blynedd yn ddiweddarach, syfrdanodd y byd cymdeithasol a gwleidyddol trwy briodi Margot Tennant, a oedd yn 12 mlwydd oed yn iau na fo ac yn troi mewn cylchoedd cymdeithasol a deallusol gwahanol iawn i'r rhai yr oedd Asquith a'i wraig gyntaf yn gyfarwydd a hwy. Bu iddynt un fab ac un ferch.

Daeth nifer o'i ddisgynyddion yn bobl amlwg gan gynnwys y Bardd Rhyfel Raymond Asquith, yr actorion Anna Chancellor a Helenah Bonham Carter a'r gwneuthurwr ffilmiau Anthony Asquith.

Ei swydd gyntaf wedi ymadael a Rhydychen oedd fel tiwtor i Ardalydd Lymington, mab Iarll Portsmouth. Wedyn, a'i bryd ar y gyfraith, ymunodd â Lincoln's Inn gan gael ei alw i'r bar yno ym 1876. Ni fu ei yrfa fel bargyfreithiwr yn llwyddiannus iawn ar y cychwyn a bu'n ychwanegu at ei incwm trwy ysgrifennu erthyglau i'r Spectator a'r Economist a thrwy weithio fel gwiriwr papurau arholiad allanol. Gwellodd ei gyrfa gyfreithiol o 1883 ymlaen pan aeth i weithio i siambrau R.S. Wright yn y Deml Ganol. Roedd Wright yn gwnsler i'r Trysorlys a bu Asquith wedyn yn paratoi cyngor cyfreithiol i'r Prif Weinidog Gladstone a'r Twrnai Cyffredinol Syr Henry James. Cododd ei waith seneddol ei broffil a dechreuodd cael cyfarwyddiadau gan nifer o gyfreithwyr pwysig.

Ymysg yr achosion pwysig bu Asquith yn dadlau o flaen y llysoedd oedd

  • Amddiffyn yr AS Rhyddfrydol Cunninghame Graham, rhag cyhuddiad o ymosod ar heddwas fel rhan o brotest yn Sgwâr Trafalga.[5][6]
  • Erlyn Henry Vizetelly am gyhoeddi "enllib anllad" wrth gyhoeddi cyfieithiadau Saesneg o nofelau Zola Nana, Pot-Bouille a La Terre.[7][8] Y tri llyfr mwyaf anfoesol a gyhoeddwyd erioed yn ôl Asquith.
  • Bod yn rhan o'r Comisiwn Ymchwil i honiadau a gyhoeddwyd yn y Times bod yr AS Gwyddelig Charles Stuart Parnell wedi cefnogi Llofruddio Prif Ysgrifennydd yr Iwerddon, Yr Arglwydd Frederick Cavendish, yn Phonix Park Dulyn. Profwyd bod y cyhuddiad yn un ffug.[9]
  • Amddiffyn Cwmni Carbollic Smoke Ball, mewn achos o bwys lle'r oedd y cwmni yn gwadu bod rhaid i honiadau a wnaed mewn hysbyseb bod yn eirwir. Collodd y cwmni'r achos.[10][11]

Codwyd Asquith yn Gwnsler y Frenhines ym 1890.

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Aelod Seneddol East Fife

[golygu | golygu cod]

Ym mis Mehefin 1886, gyda'r Blaid Ryddfrydol wedi rhannu ar y mater o hunan rheolaeth i'r Iwerddon, galwodd Gladstone etholiad cyffredinol. Yn etholaeth East Fife cafodd yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol, John Boyd Kinnear, ei dad ddewis gan ei blaid am wrthod cefnogi polisïau Gwyddelig yr Arweinydd. Gofynnwyd i Asquith i sefyll dros y Rhyddfrydwyr a llwyddodd i gael ei ethol.[12] Cadwodd y sedd am y 32 mlynedd nesaf.

Er i Asquith ennill ei sedd Collodd y Rhyddfrydwyr yr etholiad ym 1886, ac ymunodd Asquith â Thŷ'r Cyffredin fel un o feinciwr cefn yr wrthblaid. Arhosodd hyd fis Mawrth 1887 i wneud ei araith wyryfol, a oedd yn gwrthwynebu cynnig gweinyddiaeth y Ceidwadwyr i roi blaenoriaeth arbennig i Fesur Troseddau Iwerddon.[13] O ddechrau ei yrfa seneddol, fe wnaeth Asquith argraff ar ASau eraill gyda'i hyder â'i chwilfrydedd mynegiant. Am weddill y Senedd, a barodd hyd 1892, bu Asquith yn siarad yn achlysurol ond yn effeithiol, yn bennaf ar faterion Iwerddon.

Ym 1889 mewn araith i Gymdeithas Palmerston Prifysgol Rhydychen, cyhoeddodd Asquith bwriad y Blaid Ryddfrydol i gyflwyno mesurau o ymreolaeth (datganoli) i Gymru a'r Alban pe bai'r blaid yn ennill mwyafrif yn yr etholiad nesaf. Er i'r blaid ffurfio llywodraeth leiafrifol wedi etholiad cyffredinol 1891 methodd cadw at yr addewid.[14].

Ysgrifennydd Cartref

[golygu | golygu cod]

Wedi etholiad cyffredinol 1892 dychwelodd Gladstone a'r Rhyddfrydwyr i lywodraeth, gyda chefnogaeth ysbeidiol gan ASau Cenedlaethol yr Iwerddon. Er nad oedd Asquith erioed wedi gwasanaethu fel gweinidog iau, fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Cartref, swydd uwch yn y Cabinet. Roedd gan y Ceidwadwyr a'r Unoliaethwyr Rhyddfrydol mwy o ASau na'r Rhyddfrydwyr yn Nhŷ'r Cyffredin, a oedd, ynghyd â mwyafrif parhaol yr Unoliaethwyr yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn cyfyngu ar allu'r llywodraeth i roi mesurau diwygio ar waith. Methodd Asquith i sicrhau mwyafrif am fil i ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru [15][16], er mawr siom i ryddfrydwyr anghydffurfiol Cymru. Methodd hefyd i basio deddf byddai'n diogelu gweithwyr cawsant eu hanafu yn y gweithle.

Roedd ei dair blynedd fel ysgrifennydd cartref, er yn gyfnod anodd i'r Rhyddfrydwyr ar y cyfan, wedi sefydlu enw da Asquith fel gweinyddwr a dadleuwr. Erbyn 1895 roedd yn cael ei gydnabod yn un o brif ffigurau ei blaid.

Aelod o'r wrthblaid 1895–1905

[golygu | golygu cod]
Asquith yn cyflwyno cyllideb 1907 i'r Tŷ

Wedi colli etholiadau 1895, treuliodd y blaid yr 11 mlynedd nesaf fel yr wrthblaid. Enillodd Asquith incwm mawr yn y bar yn ystod y cyfnod hwn, ond roedd diffyg unrhyw incwm preifat, nad oedd rhaid gweithio amdano, yn ei rhwymo i wrthod arweinyddiaeth y blaid pan gafodd ei gynnig iddo yn 1898. Daeth Syr Henry Campbell-Bannerman yn arweinydd.[17]

Ni welodd Asquith lygad yn llygad gyda'r arweinydd newydd ar bob cwestiwn o bolisi tramor ac ymerodrol. Daeth eu gwahaniaethau yn agored ac yn gyhoeddus yn ystod Rhyfel De Affrica (1899-1902),[18] pan wnaeth Asquith, ynghyd â'r Arglwydd Rosebery, Syr Edward Gray, a R.B. Haldane, ffurfio'r Gynghrair Ryddfrydol i gefnogi polisïau ehangu'r ymerodraeth y llywodraeth. Cafodd y gwrthdaro ei wella dros dro ar ôl diwedd y rhyfel ac yn dilyn buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr yn yr etholiadau ym 1906.

Canghellor y Trysorlys

[golygu | golygu cod]

Ym 1905 ymddiswyddodd y Prif Weinidog Arthur Balfour. Gwahoddodd y Brenin Edward VII Campbell-Bannerman i ffurfio llywodraeth leiafrifol. Cafodd Asquith ei benodi yn Ganghellor y Trysorlys. Bu yn y swydd am dair blynedd gan gyflwyno tair cyllideb. Mis ar ôl ddod yn Brif Weinidog galwodd Cambell-Bannerman etholiad cyffredinol ac enillodd y Blaid Ryddfrydol buddugoliaeth ysgubol gyda mwyafrif o 132 aelod. Yn ei gyllidebau bu Asquith yn ceisio ailddosbarthu cyfoeth a chyflwyno cymorth i'r tlodion. Cyflwynodd cyfraddau treth incwm oedd yn amrywio yn ôl lefel incwm am y tro cyntaf gan gynnwys ardreth ychwanegol ar incwm o fwy na £5,000 y flwyddyn[19]. Gwnaeth hefyd cyflwyno gwahaniaeth rhwng incwm a enillwyd ac incwm heb ei ennill, gan drethu'r incwm heb ei ennill ar gyfradd uwch. Defnyddiodd y refeniw ychwanegol o'r trethi i ariannu pensiynau henoed, y tro cyntaf i lywodraeth Prydain eu darparu.[20]

Prif Weinidog cyn y rhyfel

[golygu | golygu cod]

Yn gynnar ym mis Ebrill 1908 ymddiswyddodd Campbell-Bannerman fel prif weinidog a bu farw rai dyddiau'n ddiweddarach.[21] Daeth Asquith, a oedd yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel ei olynydd anochel, yn brif weinidog gan dal y swydd am bron i naw mlynedd. Penododd David Lloyd George i'r Trysorlys a gwnaeth Winston Churchill yn llywydd y Bwrdd Masnach.

Y brif broblem bu'n wynebu ei weinyddiaeth o ran polisi cartref oedd gwrthwynebiad Tŷ'r Arglwyddi i ddiwygiadau Rhyddfrydol, a'r perygl o wrthryfel gan radicaliaid rhwystredig yn ei blaid ei hun. Tramor y brif broblem oedd cystadlu barhaus gyda'r Almaen parthed pa wlad byddai'n berchen ar y llynges gryfaf. Pan wnaeth Lloyd George ymdrechu i godi arian ar gyfer buddsoddi yn y lluoedd arfog a'r gwasanaethau cymdeithasol yn ei "gyllideb radical" ym 1909, fe wnaeth Tŷ'r Arglwyddi defnyddio feto ar y gyllideb.

Ym 1910 cyhoeddodd gynllun i gyfyngu ar bwerau Tŷ'r Arglwyddi ac, ar ôl dau etholiad cyffredinol, perswadiodd Asquith y Brenin Siôr V i fygwth creu digon o Arglwyddi newydd oedd o blaid ei ddiwygiadau i foddi'r gwrthwynebiad yn y siambr. Pasiwyd Deddf y Senedd, ym mis Awst 1911, gan ddod i ben a gallu'r Arglwyddi i wrthwynebu deddfwriaeth ariannol a basiwyd gan Dŷ'r Cyffredin.[22]

Roedd y tair blynedd rhwng y bennod hon a dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn anghyffyrddus dros ben i Asquith a'i lywodraeth. Roedd yr ymgyrch am bleidlais i fenywod yn mynd yn gynyddol filwriaethus a fu swffragetiaid yn aflonyddu ar ei gyfarfodydd preifat [23] a chyhoeddus, gan gynnwys tarfu ar araith roedd yn ei draddodi yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1909 [24].

Tramor, roedd y sefyllfa ryngwladol wedi dirywio'n gyflym. Bu cyhuddiadau o lygredd yn erbyn ei lywodraeth yn y cartref. Bu ei ail ymdrech i basio deddf i ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn wynebu trafferthion wrth i'r Arglwyddi ei flocio dwywaith. Yn y pen draw bu'n rhaid defnyddio pwerau newydd Ddeddf y Senedd i orfodi ei basio. Derbyniodd Cydsyniad Brenhinol ym mis Medi 1914. Erbyn hynny roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cychwyn a phenderfynwyd gohirio gweithredu cynnwys y ddeddf hyd ddiwedd y Rhyfel. Parhaodd y gwrthdaro rhwng Cenedlaetholwyr a'r Unoliaethwyr yn yr Iwerddon, bu bron ag arwain at ryfel cartref ym 1914. Ni wnaeth polisïau Asquith fawr ddim i wella'r sefyllfa yn Iwerddon.

Prif Weinidog adeg rhyfel

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, i bob pwrpas yn dilyn lladd yr Archddug Franz Ferdinand yn Sarejevo ar 28 Mehefin 1914. Doedd dim llawer o awydd ymysg gwleidyddion na Phrydain i ymyrryd ar y dechrau er bod Asquith, ei hun, yn credu y byddai buddugoliaeth gan yr Almaen dros Ffrainc yn drychinebus i'r Ymerodraeth Brydeinig. Dim ond pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Belg gan newid barn y cyhoedd Prydeinig ym mis Awst 1914 cytunodd y DU i ymuno a'r rhyfel. Gwelodd misoedd cyntaf y rhyfel cynnydd ym mhoblogrwydd Asquith. Ond wrth i'r rhyfel mynd rhagddi fe ddaeth yn amlwg galluoedd Asquith fel gwleidydd cyfnod o heddwch ddim yn trosglwyddo i alluoedd fel arweinydd adeg rhyfel. Yn hytrach na defnyddio crebwyll gwleidyddol, ymddiriedodd yn llwyr yn yr "arbenigwyr" milwrol gan gefnogi eu cred mae'r unig le i ennill y rhyfel oedd ar y Ffrynt Gorllewinol.

Ym mis Mai 1915 roedd yn rhaid i Asquith ail-greu ei gabinet ar sail glymblaid, gan dderbyn Unoliaethwyr yn ogystal â Rhyddfrydwyr yn aelodau ohoni.[1] Penododd Lloyd George yn weinidog arfau [25]. Nid oedd y glymblaid yn llwyddiannus o dan ei arweinyddiaeth. Methodd ymgyrch y Dardanelles, a doedd dim golwg o lwyddiant ar y Ffrynt Gorllewinol. Ar ddiwedd 1915, ffeiriodd Asquith Syr Douglas Haig am Syr John French fel Pennaeth y Staff Prydeinig yn Ffrainc a phenododd Syr William Robertson fel pennaeth newydd staff cyffredinol yr Ymerodraeth.

Bu 1916 yn flwyddyn waeth byth i lywodraeth Aasquith: achosodd Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn argyfwng domestig [26], a wnaeth Brwydr y Somme arwain at golledion ofnadwy i Brydain ar y Ffrynt Gorllewinol. Wedi dadlau hir a ffyrnig cyflwynwyd gorfodaeth filwrol. Erbyn mis Hydref 1916 roedd agwedd o anfodlonrwydd cyffredinol yn erbyn y Prif Weinidog. Ymosodwyd ar Asquith a'i arweinyddiaeth o'r rhyfel mewn ffordd filain yn y wasg.[27] Ym mis Rhagfyr ymddiswyddodd fel Prif Weinidog ac fe'i disodlwyd gan Lloyd George [28]. Ni fu mewn swydd wleidyddol wedyn, ac eithrio parhau fel arweinydd y Blaid Ryddfrydol hyd 1926. Fel arweinydd y Blaid Ryddfrydol, roedd yn aml yn gwrthwynebu polisïau ei olynydd.[3]

Wedi'r Rhyfel

[golygu | golygu cod]

O dan Ddeddf y Senedd 1911, roedd etholiad cyffredinol i fod i gael ei gynnal cyn Rhagfyr 1915. Gohiriwyd yr etholiad oherwydd y rhyfel. Roedd Andrew Bonar Law, arweinydd y Ceidwadwyr a David Lloyd George yn credu bod angen cadw'r glymblaid a enillodd y rhyfel am gyfnod er mwyn trafod yr heddwch. Gan nad oedd modd ohirio etholiad newydd dyfeisiodd y ddau gynllun lle byddai ymgeiswyr o'r ddwy blaid yn derbyn cymeradwyaeth y glymblaid ac yn cytuno i beidio sefyll ymgeiswyr yn erbyn ei gilydd. Fel arweinydd swyddogol y Blaid Ryddfrydoli gwrthododd Asquith y cynllun a fu ambell i ymgeisydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol yn ymgiprys yn erbyn Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr y Glymblaid. Penderfynodd ymgyrch y Glymblaid i beidio gwrthwynebu ymgeisyddiaeth Asquith yn East Fife, er nad oedd yn fodlon sefyll ar docyn y glymblaid. Er gwaethaf hyn penderfynodd Unoliaethwyr East Fife i sefyll ymgeisydd yn ei erbyn [29]. Collodd Asquith ei sedd. Cafodd ei ail ethol i'r senedd fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Paisley mewn isetholiad ym 1920. Gan gadw ei sedd yn etholiadau cyffredinol 1922 a 1923 ond ei golli i'r Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1924.[1] Roedd yn amlwg yn gynnar yn yr ymgyrch nad oedd gobaith iddo gadw sedd Paisley ym 1924, a chynigwyd cyfle iddo sefyll etholiad yn un o'r etholaethau Cymreig, yr unig darn o Brydain lle'r oedd y Rhyddfrydwyr yn parhau yn gryf. Ei ymateb i'r cynnig oedd I'd rather go to Hell than to Wales[30]

Derbyniodd Asquith cynnig i gael ei ddyrchafu i'r bendefigaeth fel iarll Rhydychen ac Asquith ym 1925 ac fe'i crëwyd yn farchog y gardys yn fuan wedyn. Yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd, roedd yn gymharol dlawd ac ysgrifennodd nifer o lyfrau i wneud arian, y rhai mwyaf llwyddiannus oedd Genesis of the War (1923), Fifty Years of Parliament (1926), a Memories and Reflections (1928).

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]
Bedd Asquith yn Sutton Courtenay

Bu farw o strôc yn Sutton Courtenay, Berkshire yn 75 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn Eglwys yr Holl Saint yn yr un plwyf.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Matthew, H. (2015, Ionawr 08). Asquith, Herbert Henry, first earl of Oxford and Asquith (1852–1928), prime minister. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 21 Medi 2018]
  2. "MR ASQUITH - Y Goleuad". John Davies. 1909-04-07. Cyrchwyd 2018-09-22.
  3. 3.0 3.1 Robert Norman William Blake, Baron Blake yn Encyclopedia Britannica H.H. Asquith, 1st earl of Oxford and Asquith adalwyd 21 Medi 2018
  4. Dinner to Mr. Asquith", The Times, 25 Tachwedd 1892, tud 6
  5. "The Riots in London", The Manchester Guardian, 15 Tachwedd 1887, tud. 8
  6. "Y CYHUDDIAD YN ERBYN MR GRAHAM AS A MR BURNS - Y Werin". D. W. Davies & Co. 1887-12-03. Cyrchwyd 2018-09-22.
  7. "Police", The Times, 11 Awst 1888, tud. 13;
  8. "Central Criminal Court", The Times, 1 Tachwedd 1888, tud. 13
  9. Alderson, J. P. (1905). Mr. Asquith. London: Methuen. Tud 33 adalwyd 22 Medi 2018
  10. "The Baccarat Case", The Times, 2 Mehefin 1891, tud. 11
  11. "Queen's Bench Division", The Times, 20 Mehefin 1892, tud. 3
  12. "YR ETHOLIADAU - Y Werin". D. W. Davies & Co. 1886-07-10. Cyrchwyd 2018-09-22.
  13. "YR YSGARMES CYN Y FRWYDR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1887-03-30. Cyrchwyd 2018-09-22.
  14. Alderson, J. P; Mr. Asquith; Aberdeen University Press; 1905 adalwyd 22 Medi 2018
  15. ESTABLISHED CHURCH (WALES) BILL. Hansard 06 Mai 1895 cyfrol 33 cc537-611 adalwyd 22 Medi 2018
  16. "DADWADDOLIAD YR EGLWYS - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1895-05-22. Cyrchwyd 2018-09-22.
  17. "PWY AN HARWAIN - The London Kelt". J. G. Grellier. 1898-12-17. Cyrchwyd 2018-09-22.
  18. "Mr H H Asquith AS a'r Rhyddfrydwyr - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1901-06-28. Cyrchwyd 2018-09-22.
  19. Jenkins, Roy (1964). Asquith, London: Collins
  20. "BLWYDD DAL I'R OEDRANUS - Y Dydd". William Hughes. 1907-03-15. Cyrchwyd 2018-09-22.
  21. "Marwolaeth Syr Henry Campbell-Bannerman - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1908-04-30. Cyrchwyd 2018-09-23.
  22. Parliament UK Parliament Act 1911 adalwyd 23 Medi 2018
  23. "Suffragettes Worry Mr Asquith - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-01-31. Cyrchwyd 2018-09-23.
  24. "EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLUNDAIN - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1909-10-09. Cyrchwyd 2018-09-23.
  25. "APEL MR LLOYD GEORGE - Y Dinesydd Cymreig". s.t. 1915-06-09. Cyrchwyd 2018-09-23.
  26. Y Traethodydd Cyf. LXXXVIII (II) (386-389) 1 Ionawr 1933
  27. BBC History HH Asquith (1852 - 1928) adalwyd 23 Medi 2018
  28. "Y PRIF WEINIDOG LLOYD GEORGE - Y Drafod". s.t.], 1891-. 1916-12-15. Cyrchwyd 2018-09-23.
  29. "GWRTHWYNEBU ASQUITH - Y Dydd". William Hughes. 1918-12-06. Cyrchwyd 2018-09-23.
  30. Western Mail adalwyd 23 Medi 2018
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Boyd Kinnear
Aelod Seneddol East Fife
18861918
Olynydd:
Alexandra Sprot
Rhagflaenydd:
John Mills McCallum
Aelod Seneddol Paisley
19201924
Olynydd:
Edward Rosslyn Mitchell
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Austin Chamberlin
Canghellor y Trysorlys
19051908
Olynydd:
David Lloyd George
Rhagflaenydd:
J E B Seely
Ysgrifennydd Gwladol Rhyfel
1914
Olynydd:
Iarll Kitchiner
Rhagflaenydd:
Henry Cambell-Bannerman
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
19081916
Olynydd:
David Lloyd George
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Henry Cambell-Bannerman
Arweinwr y Blaid Rhyddfrydol
19081926
Olynydd:
David Lloyd George
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Newydd
Iarll Rhydychen ac Asquith
1925–1928
Olynydd:
Julian Asquith