Ffatri Rwber Brynmawr
Math | ffatri |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.795°N 3.176°W |
Gwleidyddiaeth | |
Roedd Ffatri Rwber Brynmawr yn adeilad diwydiannol ym Mrynmawr, Blaenau Gwent. Roedd yr adeilad yn nodedig fel enghraifft bwysig ac anarferol o bensaernïaeth fodern ymysg tirwedd diwyddiannol Cymru; fe'i disgrifiwyd yn un o adeiladau modern pwysicaf Cymru ac hi oedd yr adeilad cyntaf ym Mhrydain a adeiladwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd i gael ei rhestru.[1]
Adeiladwyd y ffatri rhwng 1946-1951 ar ran cwmni rwber Brimsdown, ar gyfer cynhyrchu ystod o ddeunyddiau rwber (teiars gan bennaf); fe'i gwerthwyd yn ddiweddarach i Dunlop er mwyn cynhyrchu lloriau feinyl. Nodwedd mwyaf trawiadol y ffatri oedd y naw dom mawr uwchben prif lawr y ffatri ag ynddynt ffenestri crwn. Roedd y domau hyn yn caniatau i olau gyrraedd y llawr islaw tra'n cadw'r lle yn agored a rhydd rhag colofnau a fyddai wedi cyfyngu maint y peiriannau o fewn yr adeilad.
Cydnabuwyd pensaernïaeth y ffatri gan nifer fawr, ac yn eu plith y pensaer Americanaidd o dras Gymreig Frank Lloyd Wright a ddaeth i Gymru i'w weld.[2] Fodd bynnag ni fu y ffatri erioed yn llwyddiant ariannol ac roedd wedi cau erbyn adeg rhestru'r adeilad gan Swyddfa Cymru yn 1986. Er gwaethaf ei statws rhestredig, dirywiodd yr adeilad yn sylweddol drwy diffyg defnydd yn ystod y 1990au ac er gwaethaf ymdrechion i'w achub, dymchwelwyd y ffatri yn 2001 er mwyn datblygu'r tir lle safai.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ David Baker a Gail Chitty, Managing Historic Sites and Buildings: Reconciling Presentation and Preservation, t.159
- ↑ 2.0 2.1 https://c20society.org.uk/lost-modern/brynmawr-rubber-factory-gwent-wales