Einir Jones
Gwedd
Einir Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1950 Ynys Môn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, llenor |
Gwobr/au | Coron yr Eisteddfod Genedlaethol |
Bardd, beirniad cenedlaethol ac addasydd llyfrau plant ydy Einir Jones (g. 1950 yn Sir Fôn). Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991.[1]
Mae hefyd yn feirniad cenedlaethol, gan gynnwys y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.
Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Bangor. Bellach mae'n byw yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, ac yn dysgu yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Mae'n briod â'r Parch John Talfryn Jones.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Daeth Awst Daeth Nos (Cyhoeddiadau Barddas, 1991)
- Gweld y Garreg Ateb (Gwasg Gwynedd, 1991)
- Rhwng Dau (ar y cyd gydag Edward Jones, Gwasg Pantycelyn, 1998)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Llenyddiaeth Cymru; Archifwyd 2016-08-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Awst 2016.