[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Don Shepherd

Oddi ar Wicipedia
Don Shepherd
Ganwyd12 Awst 1927 Edit this on Wikidata
Port Einon Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gowerton Edit this on Wikidata
Galwedigaethcricedwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCricedwr y Flwyddyn, Wisden Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Criced Morgannwg Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyn-gricedwr fu'n chwarae i Glwb Criced Morgannwg oedd Donald John Shepherd, a adwaenir fel Don Shepherd (12 Awst 192718 Awst 2017)[1]. Ef oedd y bowliwr mwyaf llwyddiannus o ran wicedi yn hanes Morgannwg. Cymerodd 2,218 o wicedi dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 22.32, gan gynnwys 2,174 dros Forgannwg, y nifer fwyaf yn hanes y sir. Ef sy’n dal y record ar draws y siroedd am y nifer fwyaf o wicedi dosbarth cyntaf gan fowliwr sydd heb chwarae dros Loegr (2,218 – gan gynnwys yr MCC) – mae’n rhif 22 ar y rhestr, islaw 21 o chwaraewyr rhyngwladol ac uwchlaw cricedwyr rhyngwladol di-ri.[2]

Ganed ef ym Mhort Einon, Penrhyn Gŵyr, a dechreuodd chwarae i dîm Morgannwg yn 1950, gan gymeryd 120 o wicedi y tymor hwnnw. Yn nhymor 1956, cymerodd 177 o wicedi. Roedd yn rhan o dîm Morgannwg pan enillasant bencampwriaeth y siroedd yn 1969.

Roedd e'n aelod o dîm Morgannwg a drechodd Awstralia ddwywaith - yn 1964, ac yna fel capten yn 1968.

Ymddeolodd yn 1972 a bu'n gyd-sylwebydd a dadansoddwr criced i BBC Cymru am dros 30 mlynedd, gan sylwebu o San Helen yn 2017 cyn ei farwolaeth yn 90 oed. Fe fu hefyd yn Llywydd ar Orielwyr San Helen, clwb cefnogwyr yn Abertawe a’r de orllewin.[3]

Yn 2024, mae arddangosfa o’i yrfa yn yr Amgueddfa Griced yng Ngerddi Sophia, gan gynnwys ei ddillad a’i gapiau amrywiol, ynghyd â fideo sy’n cynnwys cyfweliad â’r gŵr ei hun.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyn-gricedwr Morgannwg, Don Shepherd wedi marw yn 90 oed , BBC Cymru Fyw, 19 Awst 2017.
  2. Y cyn-gricedwr a sylwebydd criced Don Shepherd wedi marw , Golwg360, 19 Awst 2017. Cyrchwyd ar 21 Awst 2017.
  3. Teyrngedau i ‘Shep’, un o fawrion Clwb Criced Morgannwg , Golwg360, 20 Awst 2017. Cyrchwyd ar 21 Awst 2017.