Gorsaf fysiau Sant Antoni de Portmany
Gwedd
Math | gorsaf fysiau |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sant Antoni de Portmany |
Gwlad | Sbaen |
Cyfesurynnau | 38.98137°N 1.30662°E |
Mae Gorsaf fysiau Sant Antoni de Portmany yn orsaf fysiau ger Jardinera a maes pêl-droed C.P.D. Portmany, tua 100 medr o harbwr Sant Antoni de Portmany, ar Ynys Eivissa (Ibiza), Sbaen.
Mae bysiau’n mynd i Eivissa, Santa Eularia, Sant Miquel a Maes Awyr Eivissa, yn ogystal â gwasanaethau lleol.[1] Mae hefyd rhwydwaith eang o fysiau disgo ar gael gyda’r nos i ymweld â’r clybiau nos yn ystod yr haf.[2]