Brwydr Maes Stoke
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 16 Mehefin 1487 |
Rhan o | Rhyfeloedd y Rhosynnau |
Lleoliad | East Stoke |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brwydr olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau yw Brwydr Maes Stoke, a ymladdwyd ar 16 Mehefin 1487 rhwng y Lancastriaid a'r Iorciaid. Ymladdwyd y frwydr hon, felly, ddwy flynedd wedi Brwydr Maes Bosworth, lle trechodd Harri Tudur y brenin Richard III. Dyma ymdrech olaf yr Iorciaid i geisio adfeddiannu Coron Lloegr oddi wrth Harri, gan orseddu Lambert Simnel ar ran yr Iorciaid. Methiant fu'r ymdrech, fodd bynnag, a lladdwyd bron y cwbwl o'r Iorciaid mewn brwydr fwy hyd yn oed na Brwydr Bosworth, gyda mwy o golledion hefyd.
Lleolwyd maes y gad ychydig i'r de o bentref bychan East Stoke, yn Swydd Nottingham.