Becky James
James yn 2012 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwybodaeth bersonol | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enw llawn | Rebecca Angharad James[1] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ganwyd | Y Fenni, Sir Fynwy, Cymru[1] | 29 Tachwedd 1991||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Taldra | 1.71 m (5 tr 7 mod)[2] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwysau | 67 kg (148 lb; 10.6 st)[2] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwybodaeth tîm | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tim presennol | Motorpoint–Marshalls Pasta[3] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Disgyblaeth | Trac a ffordd | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rôl | Reidiwr | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Math reidiwr | Gwibiwr / Cyffredinol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tîm(au) amatur | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Clwb ffordd y Fenni | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tîm(au) proffesiynol | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
2010– | Motorpoint–Marshalls Pasta[3] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Record medalau
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddarwyd y wybodlen ar 13 Awst 2016 |
Seiclwraig broffesiynol o Gymru yw Rebecca Angharad "Becky" James (ganwyd 29 Tachwedd 1991). Llwyddodd i ennill Bencampwriaeth y Byd yn y keirin a'r ras wibio ym Minsk yn 2013[4] a chafodd ddwy fedal arian yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn y keirin a'r ras wibio.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Mynychodd James Ysgol y Brenin Harri VIII, y Fenni.[5] Mae'n ferch i David James a Christine Harris ac yn un o chwech o blant[5][6]. Ymhlith ei chwiorydd, mae Rachel yn aelod o dîm para-seiclo Prydain Fawr fel peilot ar y tandem[7][8] tra bod Ffion yn aelod o dîm dan 23 traws-seiclo Prydain[9] a Megan wedi bod yn bencampwr dan 14 traws-seiclo Prydain[10].
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gyrfa gynnar
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd James ei gyrfa gyda'r Abergavenny Road Club yn 11 mlwydd oed[11][12] cyn cael ei derbyn fel aelod o gynllun Talent Cymru ac Academi Ieuenctid British Cycling[12]. Llwyddodd i ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop yn y 500 m yn erbyn y cloc a'r ras wibio ym Minsk, Belarws yn ogystal â Phencampwriaethau Iau y Byd yn y ras wibio a'r keirin ym Moscow, Rwsia yn 2009[12].
Gyrfa broffesiynol
[golygu | golygu cod]Cafodd James ei dewis yn aelod o dîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd, India ac enillodd fedal arian yn y ras wibio ar ôl colli yn erbyn Anna Meares o Awstralia yn y rownd derfynol. Llwyddodd hefyd i gasglu medal efydd yn y 500m yn erbyn y cloc[13]. Cafodd ei henwebu ar gyfer rhestr fer Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2010[14] ond collodd yn y bleidiais yn erbyn y pêl-droediwr Gareth Bale.
Llwyddodd James i ennill dwy fedal aur ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac UCI y Byd ym Minsk yn 2013. Trechodd yr Almaenwraig Kristina Vogel yn rownd derfynol y ras wibio[4][15] cyn ennill Pencampwriaeth Byd y Keirin ddiwrnod yn ddiweddarach[16].
Dioddefodd James anaf i'w phen-glin yn ystod 2014 a bu rhaid iddi dynnu allan o dîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban ac wedi canlyniadau annisgwyl yn dilyn prawf serfigol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cafodd James driniaeth ar gyfer canser serfigol[17].
Dwy flynedd ers cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Cali, Colombia, llwyddodd James i ddychwelyd i'r gamp ac ennill medal efydd ym Mhencampriaeth y Byd yn Llundain ym mis Mawrth 2016[18].
Cafodd ei dewis yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil lle llwyddodd i ennill dwy fedal arian yn y keirin a'r ras wibio[19].
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Y chwaraewr rygbi'r undeb, George North, ydy partner James[17].
Palmarès
[golygu | golygu cod]- 2005
- 3ydd Omnium, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 14
- 2006
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 16
- 2007
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – Iau
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 16
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 16
- 1af Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 16
- 2il Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – Iau
- 3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Traws Seiclo Prydain – Iau
- 2009
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI – Iau
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI – Iau
- 2il 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI – Iau
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Trac Ewrop
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Trac Ewrop
- 2il Keirin, Pencampwriaethau Trac Ewrop
- 2il Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 3ydd Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 3ydd 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2010
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 2il 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 2il Ras wibio tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23 (gyda Victoria Williamson)
- 3ydd 500m yn erbyn y cloc, Gemau’r Gymanwlad, 2010
- 2il Ras wibio Gemau’r Gymanwlad, 2010
- 2il 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2011
- 3ydd Keirin, Rownd 3, Cwpan y Byd, UCI 2010–2011, Beijing
- 3ydd Ras wibio, GP von Deutschland im Sprint
- 2il Treial amser 500m, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2012
- 2il Ras wibio tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 3ydd Ras wibio, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 3ydd Keirin, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 1af Ras wibio tîm, Rownd 1, Cwpan y Byd, UCI 2012–2013, Cali (gyda Jess Varnish)
- 2il Ras wibio, Rownd 1, Cwpan y Byd, UCI 2012–2013, Cali
- 1af Ras wibio tîm, Rownd 2, Cwpan y Byd, UCI 2012–2013, Glasgow (gyda Jess Varnish)
- 3ydd Ras wibio, Rownd 2, Cwpan y Byd, UCI 2012–2013, Glasgow
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras wibio tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Rachel James)
- 2013
- Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI
- 1af Ras wibio
- 1af Keirin
- 3ydd 500m yn erbyn y cloc
- 3ydd Ras wibio tîm (gyda Victoria Williamson)
- 1af Treial amser 500m, Dosbarthiad y Byd, UCI
- 2014
- Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI
- 3ydd Ras wibio tîm (gyda Jessica Varnish)[20]
- 3ydd Keirin[21]
- 2015
- 2il Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain[22]
- 2il Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain[23]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Search 1984 to 2006 – Birth, Marriage and Death indexes". Findmypast.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 14 March 2011.
- ↑ 2.0 2.1 "Becky James – Commonwealth Games Information". Commonwealth Games Delhi 2010.
- ↑ 3.0 3.1 "Becky James grabs silver at national track championships". MotorpointProCycling. 22 Medi 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-09. Cyrchwyd 2016-08-11.
- ↑ 4.0 4.1 Chris Bevan (23 Chwefror 2013). "Becky James wins sprint gold at World Championships". BBCSport.
- ↑ 5.0 5.1 "Parents of Olympic cycling star Becky James tell of Olympics pride". South Wales Argus. 4 Awst 2016.
- ↑ "Cwmheulog Hill-Climb". Cycling Shorts. 13 Hydref 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-28. Cyrchwyd 2016-08-11.
- ↑ "Profile: Rachel James". British Cycling.
- ↑ Observer Sport staff (29 Medi 2012). "After the Games: Becky James proves there is life after Pendleton". The Observer.
- ↑ "Ffion James to ride for GB at cyclo-cross world champs". South Wales Argus. 13 Ionawr 2016.
- ↑ "Abergavenny cycling dynasty continues as James sisters claim British titles". WalesOnline.
- ↑ "Becky James wins Silver for Abergavenny Road Club". Abergavenny Road Club. 7 Hydref 2010.
- ↑ 12.0 12.1 12.2 "Profile: Becky James". British Cycling.
- ↑ "Commonwealth Games 2010: Becky James edged out of gold". BBC Sport. 7 Hydref 2010.
- ↑ "Becky James Runner up at Wales Sports Personality of the Year 2010". BBC Sport. 29 Tachwedd 2010.
- ↑ "Women's Sprint Results and Final Classification" (pdf). 23 Chwefror 2013.
- ↑ "Women's Sprint Results and Final Classification" (pdf). 24 Chwefror 2013.
- ↑ 17.0 17.1 "Becky James' remarkable journey from almost quitting and overcoming a cancer scare to double Olympic silver star". WalesOnline. 16 Awst 2016.
- ↑ "Becky James happy with 'unbelievable' keirin bronze at Track Worlds". Cycling Weekly. 4 Mawrth 2016.
- ↑ "Rio: Ail fedal arian i Becky James yn y Gemau Olympaidd". BBC Cymru Fyw. 16 Awst 2016.
- ↑ "Track Cycling Worlds 2014: GB women win bronze as men toil". bbc.co.uk. 27 Chwefror 2014. Cyrchwyd 27 Chwefror 2014.
- ↑ McGeehan, Matt (3 Mawrth 2014). "Track Cycling World Championships 2014: Laura Trott takes omnium silver and Becky James Keirin bronze to bring curtain down on Championships in Cali". independent.co.uk. Cyrchwyd 3 Mawrth 2014.
- ↑ "Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain 25th-27th September 2015: Communiqué No 22: Category Female: Event Sbrint: Rownd Final Result" (PDF). British Cycling. Cyrchwyd 27 Medi 2015.[dolen farw]
- ↑ "British National Track Championship 25th-27th September 2015: Communiqué No 049: Category Female: Event Keirin: Rownd Final Result" (PDF). British Cycling. Cyrchwyd 27 Medi 2015.[dolen farw]