Afon Grannell
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.115°N 4.1553°W |
Afon fer yng Ngheredigion yw Afon Grannell.[1][2] Mae hi'n tarddu ym mhlwyf Dihewyd ger fferm Ynys-felen ger Castell Moeddyn ac yn llifo sawl milltir i'r de-ddwyrain, yn pasio agos at Gribyn, i ymuno ag Afon Teifi ger Llanwnnen. Cyfeirnod grid y tarddiad yw SN521511. Lleoliad ei haber ar Afon Teifi yw SN534462, rhwng 7 ac 8 milltir o'i tharddiad (ar hyd llinell syth, heb gyfrif troadau'r afon).
Mae sawl isafon gyda'r afon, ac mae'r dalgylch cyfan ym ymestyn o fryn ger Rhos Ymryson yn y gorllewin i fryn ger Dihewyd yn y gogledd, yn ogystal â Llanwnnen yn y de-ddwyrain.
Mae'r pentrefi bychain ar ei glannau yn cynnwys Capel Sant Silin, Cribyn a Llanwnen.
Ganwyd y bardd Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) yn ffermdy Maes Mynach, ger Cribyn, ar lan yr afon ym 1792. Ceir cyfeiriadau at yr afon mewn rhai o'i gerddi.
Mae'r afon yn rhoi ei henw i Egni Cymunedol Grannell, prosiect i godi twrbein gwynt ar fryn rhwng Llanwnnen a Chribyn, er mwyn darparu egni at dua 280 o gartrefi. Mae'r caniatadau a'r ariannu wedi cael eu sicrhau, a bwriedir cychwyn ym mis Awst 2019.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 15 Medi 2022
- ↑ " Afon Grannell", Rhestr Lleoedd Hanesyddol; adalwyd 15 Medi 2022