An Tairbeart
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.8985°N 6.8076°W |
- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Tarbert.
Prif gymuned ynys Na Hearadh (Harris) yn Ynysoedd Allanol Heledd, yr Alban, yw An Tairbeart (Gaeleg yr Alban, "isthmws, gwddw o dir"; Saesneg Tarbert). Yma ceir terminws y gwasanaeth fferi i Uig ar Ynys Skye. Mae marina ac mae cychod ar gael i ymweld ag Ynysoedd Shiant. Mae distillfa, swyddfa’r post a banc yn y pentref a hefyd bragdy yn nwyrain y pentref.[1] Adeiladwyd eglwys y plwyf ym 1862[2] Mae hefyd Eglwys Presbyteriaidd Rhydd.[3] Mae gwasanaeth bws rhwng An Tairbeart a Steòrnabhagh.[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y pentref ym 1779, seiliedig ar bysgota. Adeiladwyd pier ym 1840, a daeth fferiau o Uig yn wythnosol. Sefydlwyd melin Harris Tweed erbyn 1900. Roedd Bunabhainneadar, ger An Tairbeart yn ganolfan i’r dywidiant morfila hyd at 1952. Dechreuodd gwasanaeth fferi MacBrayne ym 1963, yn cario hyd at 50 o geir.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Visitouterhebrides
- ↑ "Harris, Tarbert, Parish Church". Unknown parameter
|cyhoeddwr=
ignored (help) - ↑ "Harris, Tarbert, Free Presbyterian Church". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-18. Cyrchwyd 2021-04-16. Unknown parameter
|cyhoeddwr=
ignored (help) - ↑ Gwefan wikivoyage
- ↑ Gwefan Undiscovered Scotland