Cyfunrywioldeb
Gall cyfunrywioldeb gyfeirio at ymddygiad neu atyniad rhywiol rhwng pobl o'r un ryw, neu at gyfeiriadedd rhywiol. Yn achos cyfeiriadedd, mae'n disgrifio atyniad rhywiol a rhamantus parhaus tuag at rai o'r un ryw, ond nid yn angenrheidiol ymddygiad rhywiol.[1] Cyferbynnir gyfunrywioldeb â heterorywioldeb, deurywioldeb ac anrhywioldeb.
Mae ymddygiad cyfunrywiol i'w gael ymhlith nifer o anifeiliaid ar wahân i fodau dynol, yn enwedig ymhysg anifeiliaid cymdeithasol.[2]
Terminoleg a geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Bathiad diweddar wedi'i seilio ar y gair Saesneg homosexuality (o'r Roeg hom (yr un peth) a'r Lladin sex (rhyw) yw "cyfunrywioldeb". Yn yr un modd ceir "anghyfunrywioldeb" i ddisgrifio pen arall y sbectrwm cyfeiriadedd rhywiol, er bod y term "heterorywioldeb" yn fwy cyffredin. Term Cymraeg llawer hŷn yw gwrywgydiaeth a chafodd ei ddefnyddio gan yr Esgob William Morgan ym Meibl Cymraeg 1588.[3] Er y rhan "gwryw" o'r gair, mewn nifer o gyd-destunau mae'n cyfeirio at weithredoedd a serchiadau rhywiol rhwng menywod yn ogystal â dynion. Mae nifer yn ffafrio cyfunrywioldeb fel term Cymraeg mwy modern, tra bo eraill yn cysylltu'r fath air ag hen agweddau meddygol tuag at gyfunrywioldeb fel afiechyd meddwl.[4] "Hoyw" yw'r term poblogaidd, anffurfiol i gyfeirio at gyfunrywioldeb, yn enwedig cyfunrywioldeb rhwng dynion, er ei fod yn gamgyfieithad o'r gair Saesneg gay: tan yn ddiweddar bu'r gair yn gyfystyr â "sionc" neu "bywiog".[5] Mae'r term "lesbiaidd" pob amser yn dynodi cyfunrywioldeb rhwng menywod. Termau mantell yw LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol) a LHDT (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol). Mae'r gair queer, oedd yn arfer cael ei ystyried yn sarhaus, wedi cael ei adfer gan bobl LHDT yn negawdau diweddar fel term positif.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Sexual Orientation and Homosexuality. Adalwyd ar 28 Tachwedd, 2007.
- ↑ (Saesneg) Lehrer, Jonah (7 Mehefin, 2006). The Gay Animal Kingdom. seedmagazine.com. Adalwyd ar 28 Tachwedd, 2007.
- ↑ Fel Arall, rhaglen ddogfen gan Nia Dryhurst a ddarlledwyd ar S4C ar 20 Tachwedd, 2007.
- ↑ Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau. Stonewall Cymru. Adalwyd ar 8 Medi, 2007.
- ↑ hoyw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Answers to Your Questions About Sexual Orientation and Homosexuality, Yr Asiantaeth Seicoleg Americanaidd