Ffrwydrolyn
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Cytsain ffrwydrol)
Mewn seineg, cytsain stop yw ffrwydrolyn neu gytsain ffrwydrol neu lle y mae'r llwybr lleisiol yn cael ei rwystro er mwyn atal llif yr anadl. Gellir rhwystro'r anadl â'r tafod neu â'r gwefusau. Mae cytseiniaid ffrwydrol yn cyferbynnu â trwynolion lle y mae rhwystr i'r llwybr lleisiol ond mae'r anadl yn llifo trwy'r trwyn, ac â ffrithiolion lle y rhwystrir yr anadl yn rhannol.
Ceir y cytseiniaid ffrwydrol canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
---|---|---|---|---|---|
Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
p | ffrwydrolyn dwywefusol di-lais | Cymraeg | pâl | [pʰaːl] | pâl |
b | ffrwydrolyn dwywefusol lleisiol | Cymraeg | bardd | [barð] | bardd |
t | ffrwydrolyn gorfannol di-lais | Cymraeg y de | tŷ | [tʰiː] | tŷ |
d | ffrwydrolyn gorfannol lleisiol | Cymraeg y de | dŵr | [duːr] | dŵr |
ffrwydrolyn ôl-blyg di-lais | Hindi | टापू (ṭāpū) | [ʈaːpu] | ynys | |
ffrwydrolyn ôl-blyg leisiol | Swedeg | nord | [nuːɖ] | gogledd | |
cytsain drwynol daflodol | Ffrangeg | agneau | [aɲo] | oen | |
cytsain ffrwydol daflodol ddi-lais | Hwngareg | hattyú | [hɒcːuː] | alarch | |
ffrwydrolyn ddi-lais felar | Cymraeg | sgwd | [skuːd] | sgwd | |
ffrwydrolyn felar leisiol | Cymraeg | gŵr | [guːr] | gŵr | |
ffrwydrolyn ffaryngeal ddi-lais | Casacheg | Қазақ Qazaq | [qɑzɑq] | Casachiad | |
ffrwydrolyn ffaryngeal leisiol | Inuktitut | utirama | [ʔutiɢama] | gan fy mod yn dychwelyd | |
ʡ | ffrwydrolyn ffaryngeal di-lais | iaith Chaida | g̱antl | [ʡʌntɬ] | dŵr |
ʔ | ffrwydrolyn lotal di-lais | Hawäieg | ‘ōlelo | [ʔoːlelo] | iaith |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.