Cepheus (mytholeg)
Gwedd
Ym mytholeg Roeg roedd Cepheus yn frenin ar Ethiopia (Affrica). Roedd yn dad i Andromeda gan Cassiopeia. Rhoddodd ei ferch i'r arwr Perseus ar ôl iddo ei hachub rhag anghenfil.
Roedd Cepheus yn un o'r Argonawtiaid a hwyliodd gyda Iason yn y llong 'Argos' i geisio'r Cnu Euraidd; ceir yr hanes yn yr Argonautica. Ar ôl ei farwolaeth cafodd ei drawsffurfio'n gytser a elwir Cytser Cepheus ar ei ôl.