Coleg Meirion-Dwyfor
Cyfesurynnau: 52°44′42″N 3°53′53″W / 52.745°N 3.898°W
Coleg Meirion-Dwyfor | |
---|---|
Safle Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau | |
Sefydlwyd | 1993 |
Math | Coleg addysg bellach |
Pennaeth | Dr. Ian J. Rees |
Lleoliad | Gwynedd, Cymru |
Campws | Dolgellau Pwllheli Glynllifon |
Lliwiau | Piws ac oren |
Gwefan | http://www.meirion-dwyfor.ac.uk |
Coleg addysg bellach yng Ngwynedd â'i brif safle yn Nolgellau sy'n gwasanaethu ardaloedd Meirionnydd a Dwyfor yw Coleg Meirion-Dwyfor (cyfeiriad grid SH718181). Mae'n goleg dwyieithog sy'n cynnig ystod o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Coleg Meirion-Dwyfor ym 1993, yn sgîl ad-drefnu addysg ôl-16 ym Meirionnydd a Dwyfor ac uno Coleg Meirionnydd a Choleg Glynllifon. Hon oedd coleg trydyddol dwyieithog cyntaf Cymru.[1]
Bu gan y coleg dri safle, yn Nolgellau ym Meirionnydd, Pwllheli yn Nwyfor a Glynllifon (ar gyfer cyrsiau mewn amaethyddiaeth) ger Caernarfon. Bu'r safle yn Nolgellau yn gartref i hen Ysgol Dr. Williams hyd iddi gau ym 1975.
Cafodd y coleg ei beirniadu'n hallt gan ESTYN yn 2002, am ganolbwyntio gormod ar asesu, gan adael i safon y hyfforddiant ddioddef oherwydd hynny.[2]
Ar 1 Ebrill 2010 unwyd Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Llandrillo Cymru, er bod y colegau wedi uno o ran rheolaeth a gweinyddiad cadwyd yr enwau annibynnol ar gyfer y ddau gampws.[3]
Ar 2 Ebrill 2012 unwyd Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Menai i greu Grŵp Llandrillo Menai, un o golegau addysg bellach mwyaf yng Ngwledydd Prydain, ond mae Coleg Meirion-Dwyfor yn parhau i gadw ei henw fel uned o'r grŵp fwy.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ailarolygiad Maes Rhaglen Trin Gwallt a Therapi Harddwch. ESTYN (Ionawr 2002).
- ↑ Adroddiad ar Ansawdd Addysg Bellach Coleg Meirion-Dwyfor. ESTYN (Tachwedd 2002).
- ↑ FAQ - Possible Coleg Llandrillo & Coleg Meirion-Dwyfor Partnership. Coleg Llandrillo (16 Mawrth 2009).
- ↑ BBC - North Wales super-college Grwp Llandrillo Menai formed from mergers adalwyd 11 Mehefin 2016
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol y coleg Archifwyd 2006-11-07 yn y Peiriant Wayback
- Adroddiadau Arolygiadau ESTYN Archifwyd 2006-10-07 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan wybodaeth partneriaeth/uniad Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Llandrillo Archifwyd 2010-01-23 yn y Peiriant Wayback