Shilpa Shetty
Shilpa Shetty | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1975 Mangalore, India |
Dinasyddiaeth | India |
Galwedigaeth | actor, model, karateka, actor ffilm |
Taldra | 1.74 metr |
Priod | Raj Kundra |
Plant | Viaan Raj Kundra |
Gwefan | http://www.shilpa-shetty.com |
Chwaraeon |
Mae Shilpa Shetty (Tulu: ಶಿಲ್ಪ ಶೆಟ್ಟಿ; ganed 8 Mehefin 1975) yn actores a model o India. Ers ymddangos yn ei ffilm gyntaf Baazigar (1993), mae hi wedi bod mewn bron i 40 o ffilmiau 40 Hindi, Tamil, Telugu a Kannada, gyda'i phrif rôl gyntaf yn y ffilm Aag (1994). Er i'w gyrfa ddirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd, mae Shetty wedi ail-greu ei delwedd yn rheolaidd. Gwerthfawrogwyd ei pherfformiadau yn Dhadkan (2000) a Rishtey (2002), tra bod ei phortread o berson yn dioddef o AIDS yn Phir Milenge (2004) wedi ennill nifer o wobrau iddi. MAe ei chwaer ieuengaf, Shamita Shetty hefyd yn actores mewn ffilmiau Bollywood.
Mae Shetty wedi cael ei chysylltu droeon â phynciau dadleuol, gan gynnwys amheuon fod ganddi gysylltiadau â'r Maffia. Ar ôl iddi gyrmyd rhan yn y rhaglen deledu Brydeinig, "Celebrity Big Brother" yn 2007, fe'i coronwyd fel enillydd y gyfres pan dderbyniodd 63% o'r bleidlais gyhoeddus.[1] Tra ar y rhaglen hon, cafwyd anghydfod hiliol rhyngwladol rhyngddi hi a'i chyd-gystadleuwyr Jade Goody, Jo O'Meara a Danielle Lloyd. Arweiniodd hyn at Shetty'n ail-sefydlu ei hun ym myd ffilmiau ac ymddangosodd mewn dwy ffilm, Life in a... Metro a Apne, gyda'i pherfformiadau'n derbyn adolygiadau cadarnhaol iawn wrth y beirniaid.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Shilpa Shetty wins Celebrity Big Brother 2007 Archifwyd 2009-03-22 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 24-03-2009
- ↑ The most powerful actresses of 2007 Adalwyd 24-03-2009