[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Offeiriad

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Offeiriad a ddiwygiwyd gan Titus Gold (sgwrs | cyfraniadau) am 21:55, 4 Medi 2023. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Beddfaen garreg offeiriad yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn

Un ag awdurdod i gyflawni defodau cysegredig yw offeiriad. Gelwir merch sy'n cyflawni swydd offeiriad yn offeiriades.

Mae'n debyg fod offeiriaid o ryw fath wedi bod ers dyddiau cynharaf crefydd, ond nid ydynt i'w cael ymhob crefydd heddiw. Ni cheir offeiriaid mewn Islam er enghraifft.

Ceir nifer o gyfeiriadau at offeiriaid ac offeiriadesau yng nghrefyddau amldduwiaeth yr Henfyd, yng ngwaith awduron clasurol ac yn y Beibl a ffynonellau eraill. Roedd gan y Celtiaid eu hoffeiriaid, er enghraifft, a oedd efallai'n gysylltiedig â swydd y bardd i ryw raddau.

Mewn Cristnogaeth mae offeiriad yn un a ordeiniwyd yn yr eglwysi esgobol (e.e. yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys yng Nghymru) i weinyddu mewn addoliad cyhoeddus ac i bregethu. Mae'n is na'r esgobion ond yn uwch na'r diaconiaid. Credir na fu offeiriaid fel y cyfryw yn yr Eglwys Fore. Mae rhai enwadau Cristnogol yn gwrthod swydd yr offeiriad; gweinidog sy'n arwain gwasanaethau'r rhan fwyaf o'r eglwysi Anghydffurfiol neu Ymneilltuol, er enghraifft. Tan yn ddiweddar iawn ni chafwyd offeiriadesau yn yr eglwysi Gristnogol.

Ceir offeiriaid mewn Hindŵaeth, Siciaeth, Bwdhaeth, Taoaeth a Shinto yn ogystal, er nad ydynt yn cyflawni'r un swyddogaeth yn union ag offeiriaid Cristnogol.

Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.