Melo
Gwedd
Math | endid tiriogaethol gweinyddol |
---|---|
Poblogaeth | 51,830 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | America/Montevideo |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cerro Largo Department |
Gwlad | Wrwgwái |
Uwch y môr | 80 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 32.37°S 54.18°W |
Cod post | 37000 |
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Wrwgwái a phrifddinas Talaith Cerro Largo yw Melo. Saif cyrion gorllewinol y ddinas ar lednant o Afon Tacuarí a elwir Arroyo de los Conventos, ger y ffin â Brasil. Mae ganddi boblogaeth o ryw 50,000.
Sefydlwyd gorsaf filwrol Sbaenaidd yma yn 1795 gan y Capten Agustín de la Rosa. Fe'i enwyd ar ôl Pedro de Melo, Rhaglaw'r Río de la Plata.[1]
Ymhlith yr enwogion o Melo mae'r llenorion Juana de Ibarbourou, Emilio Oribe, ac Emir Rodríguez Monegal.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Melo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mehefin 2019.